Alyn Valley

Mae prosiect newydd sy'n ceisio gwella ansawdd dŵr, cysylltedd cynefinoedd a bioamrywiaeth yn nalgylchoedd afonydd Alun a Chwiler yng Ngogledd Ddwyrain Cymru wedi cael cyllid drwy Raglen Cymunedau Gwledig - Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, sy'n cael ei chyllido gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. 

Mae'r Prosiect Coetiroedd ar gyfer Dŵr yn cael ei gyflwyno gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru fel rhan o'u Rhaglen Ffermio Doeth am Ddŵr. Mae'r rhaglen yn darparu’r cyngor a’r cyllid sydd eu hangen i gadw maethynnau a phridd yn yr ardaloedd lle maent o fudd i fusnes y fferm ac allan o'r afon lle maent yn niweidio bioamrywiaeth dŵr croyw. Bydd y prosiect yn cefnogi seilwaith buarth fferm fel iardiau concrid, gwahanu dŵr glân a dŵr budr yn ogystal â darparu cyngor a chefnogaeth gyda gwella iechyd pridd.

River Alyn

Bydd cynlluniau creu a rheoli coetiroedd newydd yn cael eu cefnogi, gan gynnwys lleiniau cysgodi, diogelu glannau afonydd naturiol a chymorth ar gyfer cynlluniau amaeth-goedwigaeth gan ddefnyddio cewyll coed. Ar dir ymylol serth, a reolir fel arfer gan eithin a rhedyn, byddwn yn hyrwyddo'r dull arloesol o 'blannu coed heb ffens' lle caiff coed eu plannu mewn micro-safleoedd gwarchodol i ddianc rhag pori gan dda byw. Bydd gwrychoedd sydd wedi'u hesgeuluso’n cael eu hadfer drwy lenwi bylchau, ffensio dwbl ac arddangos dull newydd o adfywio gwrychoedd yn fecanyddol, sy’n cael ei alw’n wrychoedd bywyd gwyllt.

Drwy gyfrwng y dulliau arloesol hyn o greu coetiroedd a gwella cynefinoedd coediog ar ffermydd, bydd manteision parhaus i gynhyrchiant ffermydd, ansawdd dŵr a bioamrywiaeth yn Afon Alun ac Afon Chwiler. 

Volunteers tree planting

Bydd cyfleoedd hefyd i wirfoddoli gyda gweithgareddau plannu coed ymarferol yn ogystal â gwaith arolygu i fonitro ansawdd dŵr a rhywogaethau a chynefinoedd sydd dan fygythiad. Os ydych chi wedi'ch lleoli yn ardal ffocws y prosiect ac eisiau cael gwybod mwy am sut gallai'r cynllun gefnogi eich tirddaliad, ewch i wefan y prosiect: https://bit.ly/2HWl5vh   

Spotted flycatcher
Spotted flycatcher