Datganiad ysgrifenedig gan Dafydd Elis-Thomas AS, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: 

Y diwydiannau creadigol yw un o feysydd yr economi yng Nghymru sy’n tyfu gyflymaf ers sawl blwyddyn.  Mae’r sector yn gwneud mwy na creu swyddi a chyfoeth, mae’n cyfrannu at y brand cenedlaethol ac yn helpu i hyrwyddo Cymru a’i diwylliant a’i doniau i’r byd. Gyda throsiant blynyddol o dros £2.2 biliwn, ac yn cyflogi dros 56,000 o bobl yng Nghymru, mae datblygu a chefnogi’r sector yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru.  Ym mis Ionawr, lansiwyd Cymru Greadigol gennyf fel asiantaeth fewnol Llywodraeth Cymru i hyrwyddo y diwydiannau creadigol yng Nghymru, yn benodol y sectorau ffilm a theledu; digidol; cerddoriaeth a’r sectorau cyhoeddi.  

Fodd bynnag, mae’r diwydiannau creadigol wedi dioddef llawer o COVID-19.  Drwy gydol y cyfnod hwn, mae Cymru Greadigol wedi gweithio’n galed gyda’n rhanddeiliaid i ddeall effaith y pandemig, ac i ymateb yn gyflym.  Rydym wedi cefnogi 72 o fusnesau gyda £1.32 miliwn o gyllidebau Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, a hyd yma wedi cymeradwyo 244 o grantiau y Gronfa Cadernid Economaidd i fusnesau creadigol gyda cyfanswm o oddeutu £3.4 miliwn, ac wedi cefnogi bron 1,600 o swyddi yn y sector.  Rydym wedi gweithio gyda partneriaid i ystyried y ffordd orau o gefnogi gweithwyr llawrydd, sy’n rhan sylweddol o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru ac sy’n wynebu heriau sylweddol.  Rydym yn edrych ar opsiynau i gefnogi hyfforddiant i’r gweithwyr llawrydd hyn wrth drafod gyda BECTU.  Rydym wedi cysylltu gyda darlledwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ar ein Cronfa Datblygu Teledu Brys, sydd wedi cefnogi 21 o brosiectau newydd, i ddatblygu syniadau newydd a chefnogi adferiad cydlynol.  Bydd y camau hyn yn helpu’r diwydiant ddod allan o’r argyfwng hwn mewn sefyllfa sydd mor gryf â phosibl. 

Ym mis Ebrill dyfarnwyd £150,000 yn ychwanegol i Gyngor Llyfrau Cymru i helpu i ymateb i anghenion y diwydiant cyhoeddi wrth wynebu argyfwng COVID-19.  Mae’r cyllid hwn yn helpu siopau llyfrau annibynnol y stryd fawr a chyhoeddwyr i gynnal eu busnesau dros y misoedd nesaf a bydd yn cynnig cymorth tymor byr i gyhoeddwyr llyfrau a chylchgronau sydd wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn gwerthiant ac nad ydynt yn gymwys am  ffynonellau eraill o gyllid argyfwng. 

Wrth inni barhau i lacio’r cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru, mae ein gwaith gyda rhanddeiliaid wedi symud i ganolbwyntio ar adfer. Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Cymru Greadigol ganllawiau i gynnig rhagor o eglurder ar y rheoliadau cyfredol yng Nghymru a sut y maent yn cael effaith ar y diwydiannau creadigol.  Mae'r canllawiau'n cydnabod, fel rhan o ddull graddol o wella, bod rhannau gwahanol o'r diwydiannau creadigol ar wahanol gamau, a bydd rhai is-sectorau'n cymryd mwy o amser i ailddechrau nag eraill.  Mae ein canllawiau yn adlewyrchu hyn ac yn cyfeirio at adnoddau sydd wedi’u cynllunio i gynorthwyo gyda dychwelyd i’r gwaith yn ddiogel, yn unol â'r amserlenni hyn. Mae hon yn ddogfen fyw, fydd yn cael ei diweddaru yn rheolaidd, yn unol â chylch adolygu 21 niwrnod Llywodraeth Cymru o’r rheoliadau a datblygiadau o fewn y diwydiant. 

Bu’r diwydiant sgrîn yn llwyddiannus iawn ers blynyddoedd.  Bu i’r diwydiant sgrîn wario oddeutu £55 miliwn yng Nghymru yn 2018, gan gefnogi busnesau lleol, cyfrannu at dwristiaeth a chodi proffil Cymru ledled y byd. 

Mae cynyrchiadau proffil uchel megis Brave New World (NBCUniversal), Doctor Who (BBC), His Dark Materials (Bad Wolf) a Sex Education (Netflix) wedi cadarnhau enw da Cymru yn rhyngwladol fel canolfan ragoriaeth. Mae cynyrchiadau llwyddiannus megis Y Gwyll, Un Bore Mercher a Craith wedi cynnwys ein hunaniaeth ddiwylliannol gref. 

Mae Cymru ar agor ar gyfer ffilmio, yn unol â'r rheoliadau a chanllawiau cyfredol coronafeirws. Mae ein canllawiau ar gyfer y diwydiannau creadigol wedi'u cynllunio i gefnogi hyn. Byddwn cyn bo hir yn croesawu cynyrchiadau gan gynnwys y drydedd gyfres o’r ddrama boblogaidd ar Netflix, Sex Education a thrydedd cyfres A Discovery of Witches sydd ar hyn o bryd yn paratoi i ail-ddechrau ffilmio yn y misoedd nesaf.

Mae Sgrîn Cymru, y gwasanaeth gan Cymru Greadigol sy’n cynnig cymorth ymarferol a logisteg i gynyrchiadau sy’n ffilmio yng Nghymru, wedi gweld cynnydd mewn ymholiadau yn yr wythnosau diwethaf.  Mae hyn yn dangos bod gobaith newydd y bydd y diwydiant yn gallu dod yn ôl ar ei draed unwaith eto. 

Mae busnesau digidol creadigol yng Nghymru yn brysur yn cynhyrchu cynnwys o safon byd-eang ac wedi parhau i wneud hynny yn ystod y pandemig.  Mae Fictioneers, consortiwm sy’n cynnwys Tiny Rebel Games, Sugar Creative a Prifysgol De Cymru yn adeiladu ‘The Big Fix Up – profiad realaeth ychwanegol (AR) newydd Wallace and Gromit’; mae Cymru Ryngweithiol wedi lansio ‘The Complex’ – gêm rhyngweithiol ar y platfformau mawr i gyd.  Mae nifer o’r busnesau hyn wedi defnyddio cymorth y Gronfa Datblygu Digidol Brys yn llwyddiannus, a nifer o rai eraill yn rhan o raglen Ymchwil a Datblygu Clwstwr, gydag arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru, sy’n darparu dros £10 miliwn o gymorth ar gyfer gweithgarwch benodol i gefnogi’r sector yng Nghymru. 

Rwy’n gwybod bod y sector gwasanaethau creadigol, gan gynnwys hysbysebu, marchnata ac asiantaethau digidol, yn cynllunio yn fanwl ar gyfer dychwelyd i’r gwaith, ac rydym yn awyddus i’w cefnogi yn y misoedd nesaf.    

Rydym wedi darparu mwy na £400 mil o gymorth i 22 o fusnesau cerddoriaeth ar lawr gwlad yng Nghymru.  Mae’r diwydiant cerddoriaeth yn cydnabod ei fod yn debygol y bydd yn un o’r sectorau diwethaf i allu dychwelyd i unrhyw fath o weithgarwch “arferol” ac mae’n cydweithio’n agos gyda ni ac Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddorol ar fenter o’r enw REVS i edrych ar opsiynau ar gyfer caniatáu i ail-agor lleoliadau yn ddiogel yn y dyfodol.

Yn ystod y pandemig, mae’r sector wedi croesawu technoleg ac arloesedd, sydd wedi galluogi iddo barhau i ddarparu amrywiaeth eang o berfformiadau.  Ddydd Gwener diwethaf, er enghraifft, roedd PYST /AM, yn cynnal cynhyrchiad theatr byw gan y Fran Wen o Ogledd Cymru gyda mwy na 30 o bobl ifanc yn cymryd rhan, tra bod dros 6,500 o bobl wedi gwylio gŵyl Tafwyl yn fyw ar y platfform ar yr un pryd â dau o gynyrchiadau byw gan National Theatre of Wales. 

Rwyf yn hyderus y gall Gymru ffynnu unwaith eto fel y lle ar gyfer creadigrwydd, troi dychymyg yn ddiwydiant, a sicrhau ein huchelgeisiau ar gyfer y diwydiannau creadigol yng Nghymru.   
 

Keep Wales Safe