Bydd Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi heddiw [dydd Llun Mehefin 29] y bydd pobl o ddau gartref ar wahân yn gallu dod at ei gilydd i ffurfio un cartref estynedig.

Y bwriad yw cyflwyno y trefniant yma yng Nghymru o Orffennaf 6 ymlaen – pryd mae Gweinidogion hefyd eisiau codi’r gofyniad aros yn lleol – os bydd yr achosion o’r coronafeirws yn parhau i ostwng ledled y wlad.        

Bydd creu un cartref estynedig yn galluogi i deuluoedd ddod at ei gilydd eto a hefyd bydd yn helpu i gefnogi rhieni sy’n gweithio gyda gofal plant anffurfiol dros yr haf, wrth i fwy o fusnesau ailagor eu drysau a dychwelyd at drefniadau gweithio ffurfiol.

Ond er mwyn helpu i reoli lledaeniad y coronafeirws, dim ond un cartref estynedig penodol fydd modd ei ffurfio. Ar ôl i gartref benderfynu gyda pha gartref arall mae eisiau ymuno, bydd y trefniant hwn yn sefydlog am y dyfodol rhagweladwy.      

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford:

"Diolch i ymdrechion pawb yn ystod y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld nifer yr achosion newydd o’r coronafeirws yn gostwng – ond nid yw wedi diflannu."

“Rydw i’n gwybod bod pobl yn colli gweld eu teuluoedd. Mae gennym ni le i wneud newid pellach i’r rheolau yr wythnos nesaf a byddwn yn cyflwyno’r cysyniad newydd yma o gartrefi estynedig, a fydd yn galluogi pobl sy’n byw mewn dau gartref ar wahân i ffurfio un cartref estynedig – fe allant fod yn rhan o’r un teulu neu’n ffrindiau agos."  

“Bydd y trefniant newydd yma’n golygu bod pobl yn gallu ffurfio un cartref estynedig a chyfarfod dan do.”

"Mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio profiad o bob cwr o’r byd lle mae’r trefniant yma wedi cael ei gyflwyno yn llwyddiannus, gan gynnwys yn Seland Newydd. Mae cartrefi estynedig yn eu lle yn yr Alban ac mae swigod gofal a chefnogaeth yn eu lle yn Lloegr a Gogledd Iwerddon."

O dan y trefniadau newydd, a allai ddod i rym ar 6 Gorffennaf, os yw achosion coronafeirws yn parhau i leihau:

  • Dim ond i un cartref estynedig fydd pobl yn cael perthyn.
  • Rhaid i bawb sy’n ymuno â’r cartref estynedig berthyn i’r ddau gartref, sy’n ffurfio’r cartref estynedig.
  • Rhaid i’r cartref estynedig gynnwys yr un unigolion am y dyfodol rhagweladwy.
  • Os bydd un aelod o gartref estynedig yn datblygu symptomau’r coronafeirws, bydd rhaid i’r cartref estynedig cyfan hunanynysu, nid dim ond y rhai sy’n byw o dan yr un to.
  • Bydd yn bwysig i’r cartref estynedig gadw cofnodion i helpu gydag olrhain cysylltiadau os bydd rhywun yn y cartrefi estynedig yn profi’n bositif am y coronafeirws.

Ychwanegodd y Prif Weinidog:

Rydyn ni’n parhau i ddysgu am y coronafeirws – mae’r dystiolaeth sydd gennym ni am y feirws yn dweud wrthym ni mai cyfarfod pobl yn yr awyr agored, cadw pellter cymdeithasol a hylendid dwylo da yw’r opsiwn gorau o hyd, a’r opsiwn gyda’r risg leiaf.

“Gyda’n gilydd rydyn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ystod y misoedd diwethaf yn arafu lledaeniad y feirws yma. Gyda’n gilydd fe allwn ni barhau i gadw Cymru yn ddiogel.

Keep Wales Safe