ŵyn yn y cae

Ar wahân i’r broblem bresennol o dir pori dan ddŵr, gall gaeaf gwlyb a mwyn greu problem arall i ffermwyr defaid oherwydd mae’n dywydd delfrydol ar gyfer rhai parasitiaid trafferthus.

Mae’r corff sy’n ymwneud â iechyd anifeiliaid, Rheoli Parasitiaid mewn Defaid trwy Ddulliau Cynaliadwy (SCOPS), yn helpu ffermwyr i ddygymod â hyn trwy lansio map rhyngweithiol sy’n rhagweld pryd bydd y llyngyren nematodirus yn deor.

Mae'r map yn seiliedig ar ddata tymheredd a gafwyd o 140 o orsafoedd tywydd ledled y DG, gan gynnwys 14 yng Nghymru. Oddi ar 2 Mawrth, mae wedi bod ar wefan SCOPS.

Gall ŵyn ifanc ddioddef oherwydd y llyngyren Nematodirus battus sy'n amharu ar eu perfedd. Pan fydd y pridd yn cynhesu ar ôl cyfnod o nosweithiau oer a rhewllyd, bydd nifer fawr o barasitiaid sydd wedi goroesi’r gaeaf yn ymddangos. Mae gallu rhagweld pryd y bydd hyn yn digwydd yn hollbwysig o ran gwybod pryd i roi triniaeth effeithiol.

Mae Hybu Cig Cymru (HCC), un o bartneriaid SCOPS, yn cymell ffermwyr i fod yn rhagweithiol wrth ofalu am iechyd eu buchesi trwy Brosiect Stoc+. Mae hwn yn un elfen o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch (RMDP), sef menter dros gyfnod o bum mlynedd sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd i geisio gwella’r sector cig coch yng Nghymru.

Esboniodd Dr. Rebekah Stuart, Swyddog Gweithredol Iechyd Praidd a Buches HCC:

“Yn seiliedig ar wybodaeth gan y gorsafoedd tywydd yng Nghymru, mae modd monitro'r risg o heintiad nematodirus. Serch hynny, mae angen rhoi ystyriaeth i’r risg ar y fferm, a hanes pori’r fferm.

“Mae’r defaid hŷn wedi datblygu imiwnedd naturiol i lyngyren y perfedd, ac felly cynghorir ffermwyr i ystyried sut y cafodd y tir ei bori yn y gorffennol cyn iddyn nhw droi ŵyn allan i’r caeau.  Yn ogystal, mae ŵyn sydd dan straen neu sydd mewn perygl o gael cocsidiosis  mewn mwy o berygl o gael eu heintio.”

Mae cyngor a gwybodaeth ynghylch triniaeth ar gael hefyd ar wefan SCOPS.

Cefnogir Stoc+ gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.