Mae Ken Skates Gweinidog yr Economi wedi datgelu bod Cronfa Cadernid Economaidd unigryw Llywodraeth Cymru eisoes wedi cefnogi dros 9,000 o fusnesau yng Nghymru, gan helpu iddynt warchod oddeutu 75,000 o swyddi.

Mae’r gronfa wedi gweld gwerth dros £150 miliwn o grantiau hollbwysig yn cael eu darparu i fusnesau i helpu iddynt ddelio gydag effaith coronafeirws. Mae bron £138 miliwn wedi cefnogi cwmnïau Micro a BBaChau eisoes, gyda mwy o gyllid yn cyrraedd busnesau pob diwrnod.

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi:

Mae ein Cronfa Cadernid Economaidd yn hanfodol wrth sicrhau bod busnesau o Gymru yn derbyn y cymorth ariannol y maent ei angen i helpu iddynt ddod drwy’r cyfnod hynod heriol hwn. Mae ein cyfrifiadau yn dangos bod y Cynllun Cadernid Economaidd wedi helpu i warchod oddeutu 75,000 o swyddi.

Mae’r Coronafeirws wedi rhoi pwysau na welwyd mo’i debyg ar y gymuned fusnes, ac mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth o fewn ei gallu i ddarparu cymorth ymarferol ac ariannol. Sefydlwyd y Cynllun Cadernid Economaidd i lenwi’r bylchau a adawyd gan gymorth Llywodraeth y DU a dwi’n falch bod y gronfa hon yn cefnogi cynifer o gwmnïau allai fod wedi cael eu gadael ar ôl.

Gwnaethom ymrwymiad hefyd i symleiddio pethau a gwneud yn siŵr bod y cwmnïau yn derbyn yr arian cyn gynted â phosibl. Mewn rhai achosion golygodd hyn bod ceisiadau yn dod i law, yn cael eu prosesu a bod cyllid yn cyrraedd y busnes mewn cyn lleied â phedwar niwrnod – ac fe wyddom bod y cyflymder a’r hyblygrwydd hwn yn union beth sydd ei angen ar ein busnesau.

Bydd rhagor o gyllid y Gronfa Cadernid Economaidd yn parhau i gyrraedd busnesau  yn y dyddiau a’r wythnosau nesaf wrth i geisiadau barhau i gael eu prosesu.

Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd yn rhan o becyn cymorth gwerth £1.7 biliwn gan Lywodraeth Cymru sef y cymorth mwyaf hael a chynhwysfawr yn y DU.

Mae hyn hefyd yn cynnwys mwy na 65,000 o ddyfarniadau gwerth £750 miliwn o ryddhad ardrethi busnes i helpu iddynt ymateb i heriau oherwydd y pandemig.

Bydd ail gyfnod y Gronfa Cadernid Economaidd, ddaeth i ben ddydd Gwener 10 Gorffennaf, yn rhoi cymorth i gwmnïau a busnesau cyfyngedig nad ydynt wedi cofrestru ar gyfer TAW a ddechreuodd wedi Mawrth 2019.

Mae cronfa ar wahân gwerth £5 miliwn wedi’i sefydlu’n benodol i helpu cwmnïau newydd sydd heb dderbyn cymorth gan gynllun cymorth incwm Llywodraeth y DU ar gyfer yr hunangyflogedig, yn parhau ar agor ar gyfer ceisiadau. Bydd y cynllun grant yn cefnogi hyd at 2,000 o gwmnïau  newydd yng Nghymru gyda grant o £2,500 yr un.

Ychwanegodd Ken Skates:

Fel Llywodraeth Cymru rydym wedi gweithredu ar unwaith i helpu i warchod busnesau yng Nghymru rhag effaith ddifrifol y coronafeirws.

Rydym yn gweithio’n galed i ymateb i anghenion busnesau, ond mae’n amlwg nad yw ein cyllideb yn ddi-ddiwedd.

Er ein bod yn cydnabod ymyraethau economaidd Llywodraeth y DU  hyd yma, yn enwedig y Cynllun Cadw Swyddi, mae’n amser bellach iddynt gynyddu eu hymdrechion a darparu rhagor o gymorth ariannol y mae ei wir angen ar fusnesau a’r economi er mwyn sicrhau adferiad o’r pandemig hwn.

Keep Wales Safe