Electric car charger

Mae cronfa newydd gwerth £1.8m i annog busnesau i symud y tu hwnt i weithgynhyrchu peiriannau hylosgi mewnol i gynhyrchu technolegau cerbydau carbon isel, gan helpu i ysgogi twf economaidd arloesol yng Nghymru, yn cael ei sefydlu gan Ford a Llywodraeth Cymru.

Bydd Cronfa Trawsnewid Cerbydau Carbon Isel Ford, a weinyddir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o etifeddiaeth Ford yng Nghymru, yn mynd i'r afael â heriau technegol diwydiannol strategol sy'n gysylltiedig â cherbydau carbon isel. 

Bydd ffocws clir ar fasnacheiddio a manteisio ar gynhyrchion, prosesau neu wasanaethau newydd a chapasiti cynyddol mewn technolegau carbon isel.

Rhaid i brosiectau gyd-fynd ag un o'r Mapiau Ffordd canlynol gan y Cyngor Modurol:

  • Storio Ynni Trydanol;
  • Peiriannau Trydan;
  • Electroneg Pŵer;
  • Cell Tanwydd;
  • Strwythur Cerbydau Ysgafn a Powertrain.

Bydd y gronfa newydd yn agor ar gyfer ceisiadau ddydd Llun 20 Medi 2021.

Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

Mae gan Lywodraeth Cymru ffocws clir ar helpu i greu swyddi gwyrdd newydd yn niwydiannau y dyfodol. Rydym am i Gymru fod yn wlad sydd ar flaen y gad o ran arloesi technolegau newydd a fydd o fudd i bobl yn eu bywydau o ddydd i ddydd.

Mae arloesi yn gwbl allweddol i gynllun cyflawni carbon isel Llywodraeth Cymru ac yn ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd. Felly mae lansio'r gronfa newydd hon gan Ford a Llywodraeth Cymru yn gyfle gwych i gwmnïau ledled y wlad fod ar flaen y gad o ran creu technolegau cerbydau carbon isel newydd, arloesol.

Anogir busnesau yn y sector i ddechrau meddwl yn awr am y gwelliannau technegol y gallent eu gwneud, a sut y maent yn defnyddio'r cyllid er budd economi Cymru. Bydd yn eu helpu i lunio ceisiadau cryf o fewn yr amserlenni ac yn dechrau sgwrs ar ystyried sut y gallent addo dod yn sefydliad sero-net.

Ychwanegodd Simon Palmer, Prif Beiriannydd Caledwedd Cerbydau yng Nghwmni Moduron Ford:

Mae'r gronfa hon yn gyfle gwych i fusnesau sicrhau manteision hirdymor i Gymru a'u hanghenion busnes yn y dyfodol, gan eu galluogi i ddatblygu cydweithrediadau newydd sy'n arwain at greu cadwyni cyflenwi newydd.  Byddem yn annog busnesau ac ymchwilwyr i gydweithio ar brosiectau arloesol mewn meysydd strategol bwysig o wyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg.

Dyddiadau allweddol:

  • 20 Medi 2021: cystadleuaeth yn agor
  • 23 Medi 2021: digwyddiad briffio rhithwir
  • 1 Tachwedd 2021 12pm: dyddiad cau ar gyfer gwneud cais

I gael rhagor o wybodaeth am y gronfa gan gynnwys sut i wneud cais, ewch i Cronfa Trawsnewid Cerbydau Carbon Isel Ford.