Beth sy'n rhaid i chi wneud ar lefel rhybudd 4:
- Gadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol â phobl sydd ddim yn byw gyda chi neu sydd ddim yn eich swigen gefnogaeth.
- Gwisgo gorchudd wyneb (os ydych yn gallu) yn mhob lle cyhoeddus dan do.
- Aros gartre.
- Peidio â ffurfio aelwyd estynedig (mae oedolion sy’n byw ar eu pen eu hunain neu rieni sengl yn cael ymuno ag un aelwyd arall i greu swigen gefnogaeth).
- Peidio â chwrdd dan do â neb ond y bobl rydych chi’n byw gyda nhw neu sy yn eich swigen gefnogaeth.
- Peidio â chwrdd â neb ond eich aelwyd neu’ch swigen gefnogaeth mewn gardd breifat.
- Peidio â chwrdd â neb ond eich aelwyd neu’ch swigen gefnogaeth yn yr awyr agored.
- Gweithio gartre os medrwch.
- Peidio â theithio heb esgus resymol.
- Peidio â theithio dramor heb esgus resymol.
Beth sy'n gallu agor ar lefel rhybudd 4:
- Ysgolion, colegau a darparwyr gofal plant (gofal plant anffurfiol – hanfodol yn unig)
- Sefydliadau Addysg Uwch (cymysgedd o ddarlithoedd personol ac ar-lein)
- Addoldai
- Canolfannau cymunedol – oriau agor cyfyngedig (er enghraifft i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol)
- Amlosgfeydd
- Parciau chwarae a pharciau cyhoeddus
- Priodasau, mewn lleoliadau sy’n cael agor, ac angladdau (y lleoliad fydd yn pennu nifer y bobl)
Beth sy'n gorfod cau ar lefel rhybudd 4:
- Canolfannau digwyddiadau a chynadledda
- Theatrau a neuaddau cyngerdd
- Atyniadau dan do ac awyr agored i ymwelwyr
- Mannau o adloniant
- Derbyniad priodas / Te angladd / gwylnos
- Cyrtiau chwaraeon, cyrsiau golff
- Cyfleusterau hamdden a ffitrwydd
- Atyniadau awyr agored i ymwelwyr
- Llety gwyliau (dim ond os yw’n hanfodol er enghraifft gwaith neu resymau eraill)
- Lletygarwch (heblaw am dêcawê a danfon)
- Gwasanaethau cyswllt agos
- Siopau nad ydyn nhw’n hanfodol (dim ond clicio a chasglu)
- Safleoedd trwyddedig – Têcawê a danfon yn unig rhwng 6am a 10pm
- Llyfrgelloedd ac archifdai (clicio a chasglu yn unig)
- Gweithgareddau wedi’u trefnu – dim ond gwasanaethau cyhoeddus a gwirfoddol
- Clybiau nos a mannau adloniant i oedolion