Honey processing

Mae’r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig (Bwyd) yn cynorthwyo â buddsoddiadau cyfalaf a chostau ac yn cefnogi prosiectau sy’n cynnig manteision clir y gellir eu meintoli i’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru. 

Mae’r cynllun ar agor i broseswyr a gweithgynhyrchwyr presennol a rhai meicro a bach newydd ar draws Cymru. 

Y grant uchaf ar gyfer unrhyw brosiect buddsoddi unigol yw 40% o gyfanswm y costau cymwys. Y trothwy grant uchaf ar gyfer unrhyw brosiect buddsoddi unigol yw £150,000, a’r uchafswm yw £5,000. 

Mae canllawiau manwl ar gael ymahttp://ow.ly/ns2E50E62Gd 

Gallwch gyflwyno cais am gymorth o dan y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig (Bwyd) drwy Taliadau Gwledig Cymru Ar-lein YN UNIG. Os nad ydych wedi cofrestru gyda Taliadau Gwledig Cymru Ar-lein a’ch bod yn dymuno cyflwyno cais, darllenwch y canllawiau ynghylch sut i gofrestru sydd ar gael yma : RPW Ar-lein