Consumers wowed by Welsh Lamb taste experience

Mae un o’r rhaglenni blasu Cig Oen Cymru dan reolaeth fwyaf erioed wedi gweld bron i 500 o gwsmeriaid yn barod mewn tri sesiwn o fewn deufis - ac mae eu dyfarniad poblogaidd cychwynnol yn cadarnhau lle Cig Oen Cymru ar dop y rhestr blas byd-eang.

“Blasus!”, “Anhygoel!” “Blasus iawn ac yn llawn sudd” ac yn “eithriadol o dyner” i gofnodi dim ond rhai o’r sylwadau ffafriol iawn a gynigwyd gan gwsmeriaid balch yn y tri lleoliad.

Bydd  cyfanswm o bron i 2,000 o gwsmeriaid yn cymryd rhan ym mhrosiect Ansawdd Cig Oen Cymru, sy’n rhan o Raglen Datblygu Cig Coch (RMDP) sy’n brosiect pum mlynedd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd a’i redeg gan Hybu Cig Crymu (HCC) i helpu ffermwyr Cymru i baratoi ar gyfer byd ôl-Brexit. Bydd y rhaglen cwsmeriaid newydd yn edrych i asesu a datblygu ansawdd bwyta Cig Oen Cymru ac i sicrhau’r enw da rhyngwladol rhagorol.

Yn ystod trafodaethau ar ôl y blasu, roedd llawer yn frwd dros y saith sampl a gafwyd. “Roedd fy ffefrynnau’n rheolyddion blas go iawn - blasus, llawn sudd a thyner,” dywedodd Steve Davies, oedd yn rhan o’r grŵp o Dîm Rhedwyr Y Bont-faen a ddaeth i’r prif ddigwyddiad yng Nghymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Dysgodd y cynorthwyydd dysgu o Gaerdydd, Sue Frost, dipyn o’r sesiwn. Dywedodd: “Roeddwn i’n meddwl bod y cig oen a gefais heddiw yn eithriadol o dyner ac yn llawn sudd; roedd gan ambell un arogl amlwg a gwych. Mwynheais i’n fawr.”

Consumers wowed by Welsh Lamb taste experience

 

“Blasus dros ben! Y saith darn!” dywed y brwdfrydig Janet Spearway yn y trydydd sesiwn ym Mhrifysgol Harper Adams ger Casnewydd, Swydd Amwythig, tra mae ymateb y ffotograffydd amatur brwd Jilly Broadbent oedd: “Roedd y darn cyntaf yn anhygoel! Roedd y blas yn dda a’r arogl hefyd...yn llawn sudd ac yn dyner.” Cadarnhaodd Jilly, a ddaeth gyda grŵp o Gymdeithas Ffotograffiaeth Casnewydd: “Mwynheais i’n fawr iawn.”

Bydd y rhwydwaith blasu cynhwysfawr yn helpu HCC i sefydlu’r broses ar gyfer asesiad sylfaenol trylwyr o arferion cyfredol y gadwyn gyflenwi, yn gwirio am amrywiad ansawdd cig ac yna’n adeiladu ar raglen sicrhau ansawdd bwyta bydd yn edrych i sicrhau cysondeb drwy adnabod a dylanwadu ymarferion allweddol drwy lwybrau cynhyrchu a phrosesu cig defaid.

Mae prosiect Ansawdd Bwyta Cig Oen Cymru wedi derbyn cyllid gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig 2014-2020, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

“Mae’r prosiect hwn am sicrhau bod enw da rhyngwladol Cig Oen Cymru o ragoriaeth nid yn unig yn cael ei gynnal, ond yn cael ei wella ar draws y gadwyn fwyd,” dywed Swyddog Gweithredol Ansawdd Bwyta HCC, Dr. Eleri Thomas, sy’n arwain tîm rhaglen blasu fewnol HCC. “Bydd gwyddonwyr cig blaenllaw'r byd sydd wedi’u lleoli yn Sefydliad Biowyddorau Bwyd-Amaeth, yn dechrau dadansoddi’r ymatebion gwyddonol i farn unigol y cwsmeriaid.

Consumers wowed by Welsh Lamb taste experience

 

“Mae pob gwirfoddolwr hefyd yn mynychu cyflwyniad sy’n rhannu gwybodaeth gyda nhw am werthoedd maeth a chynhyrchu cynaliadwy Cig Oen Cymru. Maent hefyd yn derbyn cyngor am ddim ar sut i’w goginio a ryseitiau sy’n creu swper cyflym neu ginio hamddenol,” dywed Dr. Thomas.