Pembrokeshire Enterprise Network

Yn ddiweddar, daeth entrepreneuriaid o bob cwr o Sir Benfro ynghyd yng Ngwesty Tŵr y Felin yn Nhyddewi ar gyfer digwyddiad cyntaf 2019 Rhwydwaith Menter Sir Benfro.

Rhoddodd y digwyddiad y cyfle i fusnesau bach a chanolig yn y sir i ddysgu gan fusnesau bach eraill o Sir Benfro ac ar draws Cymru. Roedd mynychwyr yn gallu rhwydweithio, gwneud cysylltiadau newydd a rhannu profiadau.

Wrth siarad am Rwydwaith Menter Sir Benfro dywedodd Iwan Thomas, Prif Weithredwr PLANED:

“Mae’r rhwydwaith hwn wedi ei anelu at gefnogi a chysylltu busnesau ac entrepreneuriaid ar y materion sy’n bwysig iddynt. Rydym ni yn PLANED eisiau clywed ganddynt am y materion yr hoffent eu trafod, y meysydd yr hoffent gymorth gyda nhw, ac unrhyw syniadau am siaradwyr, pynciau a lleoliadau ar gyfer digwyddiadau rhyngweithio yn y dyfodol.”

Clywodd y gynulleidfa a ddaeth ynghyd yn Nhŵr y Felin ar 29 Ionawr gan ystod o siaradwyr a aeth â nhw ar daith a amrywiai’n eang o brofiadau o safbwynt lleol, rhanbarthol a chenedlaethol:

Rhoddodd Rich Brady, Rheolwr Gyfarwyddwr Brady Global sydd wedi ei leoli yn Ninbych, gyflwyniad cignoeth a gonest a rannai ei brofiadau personol o fod yn rhan o fusnes teuluol; gan gynnwys uchafbwyntiau ac isafbwyntiau rheoli tîm bach mewn amgylchedd economaidd cythryblus.

Yna, newidiodd Iwan Thomas Planed, y cyflymdra a’r dôn, gan holi Gareth Reynolds ar agweddau amrywiol ar Dale Sailing sy’n gweithredu yn lleol ac yn rhyngwladol o’u safle yn Sir Benfro.

Amlygodd Rob Basini, Rheolwr Datblygu FSB Cymru de Cymru, fod ganddynt ar hyn o bryd bron i 700 o aelodau yn y sir a’u bod yn bwriadu helpu busnesau llai i gyflawni eu dyheadau. Gwnânt hyn drwy’r ystod o wasanaethau y maent yn eu cynnig i aelodau.

Cododd Miranda Thomas, o Business in Focus, ymwybyddiaeth o Hwb Menter Caerfyrddin sy’n cysylltu â Chanolfan Arloesedd y Bont yn Noc Penfro. Rhan o ymgais Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth i entrepreneuriaid ledled de orllewin Cymru.

Daeth Iwan â’r digwyddiad i ben gan ddiolch i’r siaradwyr, y mynychwyr a gwesty Tŵr y Felin am gynnal y digwyddiad. Hyrwyddodd weithgareddau yn y dyfodol ar gyfer y rhwydwaith a fyddai’n cael eu darparu mewn partneriaeth â busnesau ledled y sir, yn ystod y flwyddyn i ddod.