Mae cenedlaethau o chwaraewyr, hyfforddwyr a chefnogwyr Clwb Rygbi Bryncethin wedi bod yn dathlu agor Canolfan Gymunedol newydd sbon y clwb.

Wedi’i adeiladu i gymryd lle’r hen bafiliwn, mae’r adeilad deulawr newydd yn edrych dros y cae rygbi ac yn cynnwys ystafelloedd newid modern, ceginau, ystafell TG, ystafell gyfarfod, neuadd fawr, patio a balconi, a maes parcio arbennig iddo’i hun.

Y llynedd, Clwb Rygbi Bryncethin oedd y clwb chwaraeon cyntaf i gwblhau cytundeb ‘Trosglwyddo Ased Cymunedol’ gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, er mwyn dod yn berchennog ar ei gae chwarae a’r pafiliwn gan yr awdurdod lleol.                                

Yn ogystal â chytuno ar brydles 35 mlynedd, sicrhaodd y clwb rygbi hefyd gyllid o £500k o ffynonellau amrywiol er mwyn trawsnewid y pafiliwn yn llwyr yn gyfleuster i’r gymuned gyfan ei drysori.

Dywedodd Jon Davies, Cadeirydd Clwb Rygbi Bryncethin: "Rydyn ni wedi adeiladu hwn gan feddwl am y gymuned. Dyna oedd gweledigaeth y clwb – adeiladu pafiliwn y gallai’r gymuned gyfan ei fwynhau, yn lle ei fod at ddefnydd un neu ddau o grwpiau yn unig.

"Mae clybiau jiwdo a charate wedi mynegi diddordeb, ysgol ballet ac elusen neu ddwy. Mae sôn am gaffi cymunedol ac mae rhai wedi gofyn i ni gynnal brecwast priodas hyd yn oed”.

Mae’r cyllid ar gyfer y gwaith uwchraddio wedi’i ddarparu drwy Gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig, y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, Undeb Rygbi Cymru, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac arian Adran 106.

Yn ystod cyfnod o gyni ariannol, mae ein rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol wedi cael ei chynllunio er mwyn galluogi i glybiau chwaraeon a grwpiau cymunedol eraill ysgwyddo’r cyfrifoldeb am reoli cyfleusterau eu hunain.

Wrth wynebu cyfyngiadau cyllidebol sylweddol o’r fath, nid yw gwasanaethau’r cyngor yn gallu gweithredu ar y lefelau blaenorol mwyach, felly rydyn ni wedi bod yn awyddus i edrych ar fodelau eraill lle mae pobl leol a sefydliadau cymunedol yn chwarae mwy o ran.

Gall trefniadau o’r fath adfywio asedau cymunedol, ac mae’r cyngor yn falch iawn o fod wedi cefnogi Clwb Rygbi Bryncethin gyda’r prosiect yma o drawsnewid.

Dywedodd Phil Jones, Is-Gadeirydd y clwb sydd wedi arwain y prosiect ailddatblygu ers i’r clwb fynegi diddordeb i ddechrau ym mis Ionawr 2016: “Roedd y pafiliwn yn agos at gael ei gondemnio am nad oedd gan y cyngor arian i wario arno. Roedden ni’n gweld bod rhaid i ni ei gymryd ein hunain neu byddai’n cau oherwydd y safonau isel, a byddai rygbi’n diflannu o’r pentref wedyn.            

"Rydyn ni’n bodoli ers 130 o flynyddoedd ond byddai pethau wedi dod i ben yma oni bai ein bod ni wedi gwneud hyn. Mae wedi bod yn gryn dipyn o fenter."

Adeiladwyd pafiliwn Clwb Rygbi Bryncethin yn wreiddiol gan wirfoddolwyr yn 1952. Bydd gan yr adeilad newydd fynediad llawn i bobl anabl i bob ardal a bydd yn cydymffurfio’n llawn â rheoliadau Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) fel ei fod yn gallu bod yn gartref i grwpiau chwarae.

Mae cyfanswm o £128,000 wedi cael ei ddyfarnu i’r prosiect gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Tîm Datblygu Gwledig Reach Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr drwy’r Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig gan fod Bryncethin yn un o’r 21 o wardiau yn y fwrdeistref sirol sy’n gymwys i dderbyn cyllid datblygu gwledig.

Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg ac Adfywio: “Roedden ni’n teimlo bod y prosiect cyffrous yma’n llawn haeddu cyllid datblygu gwledig oherwydd bydd croeso mawr iddo gan y gymuned. Bydd cyfuno’r clwb rygbi gyda chanolfan gymunedol yn ased gwirioneddol i drigolion Bryncethin.

“Nid yn unig bydd y datblygiad yn helpu’r clwb i barhau i ffynnu ac yn annog hoffter o rygbi ymhlith pob oedran, ond hefyd bydd yn golygu bod y gymuned ehangach yn gallu dod at ei gilydd yno, cymdeithasu, defnyddio gwasanaethau a chymryd rhan mewn gweithgareddau.”

Derbyniodd y Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig gyllid drwy Raglen Cymunedau Gwledig - Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Os oes gennych chi unrhyw syniadau ar gyfer eich cymuned wledig yr hoffech eu datblygu, ewch i www.bridgendreach.org.uk neu anfonwch e-bost i reach@bridgend.gov.uk am wybodaeth bellach.  

Gellir cael rhagor o wybodaeth am Raglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol y Cyngor drwy gysylltu â’r Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol ar e-bost Guy.Smith@bridgend.gov.uk.