Aerial view of Dovey (Dyfi) Estuary & Aberdovey (Aberdyfi)

Bydd cannoedd o brosiectau sy'n rhoi hwb i'r economi wledig, gwella bioamrywiaeth a gwella gwytnwch y sector bwyd ledled Cymru yn cael eu cefnogi gan fuddsoddiad ariannol o £106m am y tair blynedd nesaf.

Bydd cynlluniau allweddol sy'n sail i economi wledig, bioamrywiaeth a blaenoriaethau amgylcheddol Cymru yn cael cymorth pellach, parhaus yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r cyllid presennol, gan roi sicrwydd i gynlluniau hanfodol wrth iddynt geisio adfer yn sgil pandemig Covid-19.

Bydd nifer o gynlluniau newydd hefyd yn cael eu datblygu mewn ymateb i'r pandemig, yn ogystal â heriau eraill fel ymadawiad arfaethedig y DU o’r UE.

Bydd y prosiectau hynny a gefnogir gan y cynnydd mewn buddsoddiad yn cynnwys y rheini sy'n delio ag amrywiaeth o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys:

  • Creu ac adfer coetiroedd
  • Meithrin gwytnwch ymysg adnoddau naturiol Cymru a gwella bioamrywiaeth,
  • Helpu busnesau bwyd i wella eu cadwyni cyflenwi, gwytnwch busnes 
  • Cefnogi busnesau fferm i helpu i sicrhau eu cynaliadwyedd
  • Darparu Strategaeth Adfer Covid-19 ar gyfer y sector bwyd a diod.

Bydd buddsoddiadau hefyd yn cael eu gwneud ar draws amrywiaeth o gynlluniau sy'n gysylltiedig â rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy, ymateb i argyfwng yr hinsawdd a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth.

Caiff y cynlluniau eu hariannu drwy gyfuniad o Gynllun Datblygu Gwledig (CDG) yr UE 2014-20, ac o gronfeydd Llywodraeth Cymru ei hun. 

Cyhoeddodd y Gweinidog gyllid newydd yn dilyn ymweliad â Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd ddoe (dydd Llun, Medi 7).

Mae ZERO2FIVE yn un o dair canolfan Arloesi Bwyd Cymru ledled Cymru sy’n darparu Prosiect HELIX, buddiolwr presennol cyllid y CDG sy'n rhoi cymorth technegol, strategol a masnachol i gwmnïau bwyd a diod Cymru i wella eu heffeithlonrwydd, lleihau gwastraff a gwella eu perfformiad amgylcheddol.

Dywedodd y Gweinidog:

Bydd y buddsoddiad mawr hwn gan Lywodraeth Cymru a Rhaglen Datblygu Gwledig yr UE yn rhoi cymorth hanfodol i'n heconomi wledig a'n hamgylchedd naturiol dros y tair blynedd nesaf. Mae'r ymrwymiad hirdymor hwn yn dangos sut y bydd y llywodraeth yn cefnogi busnesau a chymunedau i hybu cyflogaeth a chynaliadwyedd amgylcheddol, gan roi sicrwydd a helpu ein partneriaid i gynllunio.

Mae effaith y stormydd dwys ar ein cymunedau gwledig yn gynharach eleni ac yna'r pandemig Covid-19 wedi bod yn aruthrol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth ar unwaith drwy'r Gronfa Cadernid Economaidd, sy'n unigryw i Gymru, yn ogystal â chyfres o gynlluniau wedi'u targedu. Mae'r cyhoeddiad heddiw'n nodi rhywfaint o'r cyllid y byddwn yn ei ddarparu ar gyfer datblygu gwledig nid yn unig yn y dyfodol agos, ond am y tair blynedd nesaf.

Er bod economi wledig Cymru yn wynebu sawl her mae gennym lawer o asedau a chyfleoedd y gallwn adeiladu arnynt – o'n treftadaeth naturiol ysblennydd i'r sectorau bwyd a diod ffyniannus. Bydd y buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd yn adeiladu ar y cryfderau hynny i gefnogi swyddi ac arloesedd yn yr economi wledig mewn ffordd sy'n diogelu ein hamgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Dywedodd yr Athro David Lloyd o Arloesi Bwyd Cymru:

Gan fod ein gwaith yn canolbwyntio mor agos ar ddarparu'r adnoddau a'r cymorth sydd eu hangen ar fusnesau Cymru, rydym yn croesawu'r cyhoeddiad heddiw am y cynnydd yng nghyllid y CDG, gyda chyllid i barhau am y tair blynedd nesaf.

Rydym wedi parhau i ymgysylltu ag amrywiaeth o fusnesau drwy gydol yr amser heriol hwn – ac ystyried yr effaith y mae llawer ohonynt wedi'i chael o ganlyniad i'r pandemig diweddar, rwy'n siŵr y byddant yn croesawu'r cymorth hirdymor y bydd y cynnydd yng nghyllid y Cynllun Datblygu Gwledig a chan Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu.

Bydd Prosiect HELIX yn parhau i ddarparu cymorth hanfodol i fusnesau Cymru wrth iddynt geisio datblygu cynnyrch newydd, gwastraffu llai ac ennill ardystiad sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol.

Dywedodd Huw Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Puffin Foods:

Ar ôl cael cymorth gan y Cynllun Datblygu Gwledig drwy'r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd (FBIS) a Phrosiect HELIX yn y gorffennol, rydym yn falch iawn o weld bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhagor o gyllid ar gyfer cynlluniau gwledig, bwyd ac amgylcheddol.

Mae'r cyfnod diweddar wedi taro'r sector bwyd a chynnyrch yn arbennig o galed – bydd y cyhoeddiad hwn yn gymorth i ddarparu lefel o sicrwydd y mae mawr ei angen ar fusnesau ledled Cymru.