Bydd ffigurau bwyd a diod blaenllaw yn ymuno â Llywodraeth Cymru wrth iddyn nhw amlinellu cynlluniau i osod arferion cynaliadwy wrth wraidd agenda adfer y diwydiant ar ôl Covid.

Byddan nhw’n edrych ar feysydd fel twf a chynhyrchiant, effaith amgylcheddol, gwaith teg a chodi safonau drwyddi draw, a thrwy gydweithio y gobaith yw y gall y llywodraeth a'r diwydiant greu un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf amgylcheddol a chymdeithasol gyfrifol yn y byd.

Wrth amlinellu'r weledigaeth gyda chefnogaeth ehangach partneriaid y diwydiant, dywedodd Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

“Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un o aflonyddwch mawr i'r diwydiant yma yng Nghymru, o Brexit i Covid-19. Bydd llawer mwy o ddiwrnodau anodd o'n blaenau, ond rhaid i ni gynllunio ar gyfer dyfodol sy'n sicrhau bod busnesau bwyd a diod yn ffynnu dros y blynyddoedd nesaf, yn ariannol ond hefyd yn foesegol. Felly, yr wythnos hon rydym ni’n amlinellu ein gweledigaeth strategol ar gyfer y diwydiant yn y dyfodol dros y degawd nesaf fel un sydd ag enw da byd-eang am ragoriaeth, ac wrth geisio cael un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol yn y byd."

“I ddefnyddio ymadrodd cyffredin, rydym ni’n gwerthfawrogi bod ymdrechu tuag at ddatblygu cynaliadwy - fel yr amlinellir yn ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol flaengar - yn 'broses ac nid yn ddigwyddiad'. Yn sicr, nid ydym ni’n honni ein bod wedi cyrraedd diwedd y daith, ond rydym ni’n deall yn iawn fel llywodraeth, bod gennym ni rôl i'w chwarae wrth sicrhau bod cynaliadwyedd yn cael ei ystyried yn elfen hanfodol o'r gadwyn gyflenwi bwyd a diod gyfan, o'r maes a'r môr yr holl ffordd i'r fforc.”

“Gofalu am ein hamgylchedd, ein pobl a'n bywoliaeth, tra'n sicrhau ffyniant a thwf yn y dyfodol yw'r gwerthoedd sy'n llywio ein polisïau a'n cyfreithiau. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos corff cynyddol o ymchwil sy'n amlygu'r galw cynyddol gan ddefnyddwyr am gymwysterau cynaliadwyedd cryfach.”

Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod angen i'w gweledigaeth fod yn fesuradwy, gyda'r nod dros y blynyddoedd nesaf o gefnogi'r diwydiant drwy nodau mesuredig wrth iddo ymdrechu i gyrraedd y lefelau uchaf o safonau amgylcheddol, tra'n sbarduno busnesau i ennill achrediad arfer gorau. Mae cynlluniau eisoes ar y gweill i roi dangosyddion perfformiad allweddol ar waith yn ddiweddarach eleni, gan gynnwys sicrhau llwybr uwch o achrediad bwyd a busnesau sydd wedi ymrwymo i dalu Cyflog Byw Cymru.  I ffermwyr, bydd y polisi Ffermio Cynaliadwy a'n Tir sy’n cael ei ddatblygu i ddisodli'r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn sicrhau y bydd cynhyrchu bwyd cynaliadwy yn gyfystyr ag amaethyddiaeth Cymru.

Daw'r cyhoeddiad yn dilyn gwaith paratoi helaeth sydd wedi bod yn mynd rhagddo drwy gydol y blynyddoedd diwethaf, a ddatblygodd yn gyflym dros gyfnod Covid-19, er mwyn adeiladu'r sylfeini ar gyfer y weledigaeth strategol ‘egin gwyrdd' sy'n deillio o'r tarfu presennol o ganlyniad i Brexit a Covid-19.

Mae ymchwil byd-eang wedi canfod bod cynaliadwyedd mewn marchnadoedd allweddol yn bwysig i 88% o ddefnyddwyr gyda 40% yn barod i dalu mwy am fwyd a diod cynaliadwy. Mae ymchwil hefyd yn canfod bod Cymru mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y duedd gynyddol hon gydag enw da rhyngwladol cryf am gynhyrchu cynhyrchion blasus a naturiol o ansawdd uchel – sy’n tynnu sylw at y ffaith bod 84% o ymatebwyr yn credu bod bwyd a diod o Gymru yn gyfystyr â bod yn "naturiol".

Ynghyd ag ymchwil helaeth sy'n cael ei wneud ar deimladau defnyddwyr a manwerthwyr ac arferion prynu, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi creu cymorth ymarferol i fusnesau sydd â diddordeb mewn sbarduno arloesedd ac effeithlonrwydd trwy ddefnyddio arferion cynaliadwy. Mae Arloesi Bwyd Cymru, rhwydwaith cymorth canolfannau bwyd y diwydiant, yn darparu cymorth un i un yn y maes ar gyfer llu o gwmnïau, tra bydd Clwstwr Cynaliadwyedd o fusnesau o'r un anian a ddatblygwyd yn ddiweddar yn ganolog i gynlluniau ar gyfer y dyfodol. Maen nhw eisoes wedi cael llif o ddiddordeb gan fusnesau bwyd a diod sy'n awyddus i gydweithio, rhannu arfer gorau, yn ogystal â thynnu'r diwydiant ehangach i fyny pan fo angen i osod eu golygon wrth gyrraedd y weledigaeth.

A hithau’n ymwybodol o effaith gwthio a thynnu yr angen i hyrwyddo cymwysterau tarddiad a ansawdd Cymru ymhellach yn sgil y pwysau presennol ar y diwydiant, yr wythnos hon yn y cyfnod cyn Dydd Gŵyl Dewi a thu hwnt bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn lansio amrywiaeth o bartneriaethau cyfryngau sydd â'r nod o gyfathrebu â defnyddwyr ar lefel y DU ac ar lefel ryngwladol i arddangos ansawdd a tharddiad bwyd a diod o Gymru.