Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi gweledigaeth strategol ar gyfer y diwydiant bwyd a diod yn y dyfodol wrth iddi osod ei golygon, dros y blynyddoedd nesaf, i fod yn arweinydd byd-eang ym maes cynaliadwyedd.

Bydd ffigurau bwyd a diod blaenllaw yn ymuno â Llywodraeth Cymru wrth iddyn nhw amlinellu cynlluniau i osod arferion cynaliadwy wrth wraidd agenda adfer y diwydiant ar ôl Covid.

Byddan nhw’n edrych ar feysydd fel twf a chynhyrchiant, effaith amgylcheddol, gwaith teg a chodi safonau drwyddi draw, a thrwy gydweithio y gobaith yw y gall y llywodraeth a'r diwydiant greu un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf amgylcheddol a chymdeithasol gyfrifol yn y byd.

Wrth amlinellu'r weledigaeth gyda chefnogaeth ehangach partneriaid y diwydiant, dywedodd Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un o aflonyddwch mawr i'r diwydiant yma yng Nghymru, o Brexit i Covid-19. Bydd llawer mwy o ddiwrnodau anodd o'n blaenau, ond rhaid i ni gynllunio ar gyfer dyfodol sy'n sicrhau bod busnesau bwyd a diod yn ffynnu dros y blynyddoedd nesaf, yn ariannol ond hefyd yn foesegol. Felly, yr wythnos hon rydym ni’n amlinellu ein gweledigaeth strategol ar gyfer y diwydiant yn y dyfodol dros y degawd nesaf fel un sydd ag enw da byd-eang am ragoriaeth, ac wrth geisio cael un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol yn y byd.

I ddefnyddio ymadrodd cyffredin, rydym ni’n gwerthfawrogi bod ymdrechu tuag at ddatblygu cynaliadwy - fel yr amlinellir yn ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol flaengar - yn 'broses ac nid yn ddigwyddiad'. Yn sicr, nid ydym ni’n honni ein bod wedi cyrraedd diwedd y daith, ond rydym ni’n deall yn iawn fel llywodraeth, bod gennym ni rôl i'w chwarae wrth sicrhau bod cynaliadwyedd yn cael ei ystyried yn elfen hanfodol o'r gadwyn gyflenwi bwyd a diod gyfan, o'r maes a'r môr yr holl ffordd i'r fforc.

Gofalu am ein hamgylchedd, ein pobl a'n bywoliaeth, tra'n sicrhau ffyniant a thwf yn y dyfodol yw'r gwerthoedd sy'n llywio ein polisïau a'n cyfreithiau. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos corff cynyddol o ymchwil sy'n amlygu'r galw cynyddol gan ddefnyddwyr am gymwysterau cynaliadwyedd cryfach.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod angen i'w gweledigaeth fod yn fesuradwy, gyda'r nod dros y blynyddoedd nesaf o gefnogi'r diwydiant drwy nodau mesuredig wrth iddo ymdrechu i gyrraedd y lefelau uchaf o safonau amgylcheddol, tra'n sbarduno busnesau i ennill achrediad arfer gorau. Mae cynlluniau eisoes ar y gweill i roi dangosyddion perfformiad allweddol ar waith yn ddiweddarach eleni, gan gynnwys sicrhau llwybr uwch o achrediad bwyd a busnesau sydd wedi ymrwymo i dalu Cyflog Byw Cymru.  I ffermwyr, bydd y polisi Ffermio Cynaliadwy a'n Tir sy’n cael ei ddatblygu i ddisodli'r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn sicrhau y bydd cynhyrchu bwyd cynaliadwy yn gyfystyr ag amaethyddiaeth Cymru.

Daw'r cyhoeddiad yn dilyn gwaith paratoi helaeth sydd wedi bod yn mynd rhagddo drwy gydol y blynyddoedd diwethaf, a ddatblygodd yn gyflym dros gyfnod Covid-19, er mwyn adeiladu'r sylfeini ar gyfer y weledigaeth strategol ‘egin gwyrdd' sy'n deillio o'r tarfu presennol o ganlyniad i Brexit a Covid-19.

Mae ymchwil byd-eang wedi canfod bod cynaliadwyedd mewn marchnadoedd allweddol yn bwysig i 88% o ddefnyddwyr gyda 40% yn barod i dalu mwy am fwyd a diod cynaliadwy. Mae ymchwil hefyd yn canfod bod Cymru mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y duedd gynyddol hon gydag enw da rhyngwladol cryf am gynhyrchu cynhyrchion blasus a naturiol o ansawdd uchel – sy’n tynnu sylw at y ffaith bod 84% o ymatebwyr yn credu bod bwyd a diod o Gymru yn gyfystyr â bod yn "naturiol".

Ynghyd ag ymchwil helaeth sy'n cael ei wneud ar deimladau defnyddwyr a manwerthwyr ac arferion prynu, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi creu cymorth ymarferol i fusnesau sydd â diddordeb mewn sbarduno arloesedd ac effeithlonrwydd trwy ddefnyddio arferion cynaliadwy. Mae Arloesi Bwyd Cymru, rhwydwaith cymorth canolfannau bwyd y diwydiant, yn darparu cymorth un i un yn y maes ar gyfer llu o gwmnïau, tra bydd Clwstwr Cynaliadwyedd o fusnesau o'r un anian a ddatblygwyd yn ddiweddar yn ganolog i gynlluniau ar gyfer y dyfodol. Maen nhw eisoes wedi cael llif o ddiddordeb gan fusnesau bwyd a diod sy'n awyddus i gydweithio, rhannu arfer gorau, yn ogystal â thynnu'r diwydiant ehangach i fyny pan fo angen i osod eu golygon wrth gyrraedd y weledigaeth.

The announcement comes following extensive preparation work that has been ongoing throughout recent years, increased apace over the Covid-19 period, in order to build the foundation blocks for the ‘green shoots’ strategic vision emerging out of the current joint disruption of Brexit and Covid-19.

Global research has found that in key markets sustainability is important to 88% of consumers with 40% willing to pay more for sustainable food and drink. Research also finds Wales is well placed to capitalise on this increasing trend with a strong international reputation for producing high quality, tasty and natural products - highlighting that 84% of respondents believe that food and drink from Wales was synonymous with being “natural”.

Along with extensive research being carried out on consumer and retailer sentiment and buying habits the Welsh Government has also created practical support for businesses interested in driving innovation and efficiency through sustainable practices. Food Innovation Wales, the industry’s food centre support network provides for a host of companies one to one support in the area, while central to future plans will be a recently developed Sustainability Cluster of like-minded businesses. Already inundated with interest from food and drink businesses keen to collaborate, share best practice, as well as pull the wider industry upwards when needed to set their sights in reaching the vision.

Conscious of the push pull effect of needing to promote Wales’s provenance and quality credentials further in the wake of current pressures on the industry the Welsh Government will also be launching this week in the build-up to St David’s Day and beyond a range of media partnerships aimed at communicating with consumers both on a UK and international level to showcase the quality and provenance of food and drink from Wales.