Local Veg

Mae effaith ddiweddar COVID-19 ar y busnesau bach sy’n cynhyrchu bwyd a diod wedi bod yn sylweddol. Mae rhagor o bobl wedi ceisio cefnogi busnesau lleol, sy’n gadarnhaol, gan sylweddoli gwerth ‘Prynu’n Lleol’.

local apples

Fel rhan o’r mudiad prynu’n lleol mae Cwm a Mynydd, y rhaglen datblygu gwledig ar gyfer Caerffili a Blaenau Gwent, yn cynnig cyfle i gyflenwyr bwyd a diod ddod yn rhan o fap bwyd lleol sydd ar fin cael ei lansio ar gyfer Caerffili a Blaenau Gwent gan ddarparu cyfeirlyfr gweledol o fwyd a diod lleol. Bydd y map bwyd a’r wefan yn cynnig ffordd hawdd i weld pa gynnyrch gwych y gall trigolion ei brynu gan gynhyrchwyr lleol a gwledig  ar garreg eu drysau.

Mae ystod o gynhyrchwyr bwyd a diod lleol wedi ymuno â Chwm a Mynydd, gan gynnwys Terry’s Patisserie, i weithio gyda Phrifysgol Aberystwyth ar fap sy’n gwsmer gyfeillgar . Mae’r cynllun eisoes wedi dod â chynhyrchwyr lleol at ei gilydd ac yn cael ei ariannu trwy’r cynllun Data Daearyddol ac Arsyllu ar y Ddaear ar gyfer Monitro (GEOM) dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth, ac rydyn ni’n edrych am ragor o fusnesau i fanteisio ar y cyfle i ymuno â’r map sy’n tyfu.

Gan weithredu fel canolbwynt bwyd lleol, gall cwsmeriaid archebu o gynhyrchwyr sydd ar y map ymlaen llaw a chasglu’r cynnyrch lleol o hwb ganolog – fel gwasanaeth clicio a chasglu ‘prynu’n lleol’. Bydd y wefan hefyd yn rhoi cwsmeriaid mewn cysylltiad uniongyrchol â chynhyrchwyr sy’n cynnig gwasanaeth dosbarthu i gartrefi, casglu neu werthu wrth gât y fferm ac mae’r holl gynhyrchwyr yn sicrhau bod casglu a dosbarthu yn cael ei wneud yn ddiogel yn ystod y cyfnod anodd hwn.

local pumpkin

Mae’r Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet Cyngor Caerffili dros yr Amgylchedd a Gwasanaethau’r Gymdogaeth a Chadeirydd Grŵp Gweithredu Lleol Cwm a Mynydd, yn arwain y galw am gymorth lleol ‘Yn ystod y cyfnod heriol hwn, rydyn ni i gyd yn gwerthfawrogi'r hyn sy’n lleol i ni, pa fwyd a diod sydd ar gael ar garreg ein drysau ac mae’r cynllun hwn yn caniatáu i’n cynhyrchwyr lleol gwych arddangos eu busnesau ar un map lle gall trigolion ddod o hyd iddyn nhw yn hawdd. Mae prynu’n lleol a lleihau’r daith am fwyd yn helpu’r amgylchedd ac yn cefnogi ein heconomi lleol ac yn dod yn rhan o’r bywyd bob dydd newydd.’

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnwys eich busnes bwyd neu ddiod ar y wefan hon, neu am ragor o wybodaeth, e-bostiwch rhaglendatblygugwledig@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 838632.

Cwm a Mynydd yw’r enw ar gyfer Rhaglen Datblygu Gwledig Caerffili a Blaenau Gwent, a ariennir trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd ac sy’n cefnogi ystod eang o gynlluniau i greu cymunedau gwledig gwydn a bywiog.