Bydd Bwcabus yn parhau i weithredu ar ôl i Gyngor Sir Caerfyrddin sicrhau cyllid am y ddwy flynedd nesaf.

Dechreuodd y gwasanaeth bws arobryn weithredu yn ardaloedd Castellnewydd Emlyn a Llandysul yn 2009.
Ers hynny mae wedi tyfu i wasanaethu hyd yn oed mwy o gymunedau gwledig ar draws Gogledd Sir Gaerfyrddin a De Ceredigion; ac mae wedi'i lansio yn Sir Benfro, yn sgil grant Rhaglen Datblygu Gwledig o dan y prosiect LINC II.

Trefnir teithiau'n unol ag anghenion y teithwyr a gellir archebu lle ymlaen llaw, gan alluogi pobl i deithio rhwng trefi a phentrefi lleol yn y parth, neu gysylltu â'r prif wasanaethau bysiau i gyrraedd llefydd fel Aberystwyth, Caerfyrddin, Aberteifi, Hwlffordd ac Abergwaun.

Ar hyn o bryd mae'n gweithredu o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 7am a 7pm drwy wasanaeth archebu ymlaen llaw. Bydd yn ailddechrau gwasanaethau amserlen llwybrau sefydlog yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion o ddiwedd y mis hwn ar ôl iddynt gael eu hatal oherwydd pandemig y Coronafeirws.

Mae Bwcabus yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Penfro sydd wedi derbyn cyllid drwy Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, sy'n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd yn Sir Gaerfyrddin: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu sicrhau cyllid ar gyfer parhau â'r gwasanaeth hwn y mae mawr ei angen. Mae'r gwasanaeth yn rhoi mynediad haws i bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig at ofal iechyd a gwasanaethau allweddol eraill yn ogystal â chyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant.”

I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.bwcabus.info neu ffoniwch 01239 801 601 i archebu lle.