HCC Joins Global Push for Sustainable Meat

Mae’r corff cig coch Cymru Hybu Cig Cymru (HCC) wedi ymestyn ei ymrwymiad i amaeth sy’n gynaliadwy yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol trwy ymuno â'r Ford Gron Fyd-eang ar Gig Eidion Cynaliadwy (GRSB).

Yn ddiweddar, cyhoeddodd HCC ei weledigaeth ar gyfer dyfodol cynaliadwy i’r sectorau cig oen ac eidion - ‘Y Ffordd Gymreig’ - a amlygodd fod Cymru eisoes mewn sefyllfa dda i gynhyrchu cig coch gydag allyriadau isel iawn. Gosododd y ddogfen amcanion uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol.

Mae'r Ford Gron Fyd-eang ar Gig Eidion Cynaliadwy yn sefydliad rhyngwladol a'i rôl yw hyrwyddo cynhyrchu cig eidion sy’n rheoli adnoddau naturiol yn gyfrifol, yn cefnogi diwylliant a hawliau dynol, ac yn parchu lles anifeiliaid.

Dywedodd Prif Weithredwr HCC, Gwyn Howells, “Yng Nghymru rydym yn benderfynol o brofi y gellir cynhyrchu cig coch yn unol â'n hamgylchedd gen hefyd gefnogi economi a diwylliant ein gwlad."

“Mae ymchwil a wnaed ar gyfer ein dogfen ‘Y Ffordd Gymreig’ yn dangos, o’i chymharu â llawer o systemau ffermio eraill, bod y ffordd y mae cig eidion yn cael ei gynhyrchu yma yn arwain at lawer llai o allyriadau. Gallwn gynhyrchu cig eidion o ansawdd rhagorol gan ddefnyddio’n bennaf yr adnoddau toreithiog o laswellt a dŵr glaw sydd gennym wrth ein traed."

“Rydym yn falch o ymuno â sefydliadau o’r un anian ar draws y byd i rannu ymchwil a gwybodaeth, gyda’r nod o sicrhau dulliau ffermio cig coch sy’n gynaliadwy a chyfrifol.”

Dywedodd Ruaraidh Petre, Cyfarwyddwr Gweithredol y Ford Gron Fyd-eang ar Gig Eidion Cynaliadwy; “Mae GRSB yn gyffrous i groesawu HCC fel ei aelod mwyaf newydd. Wrth i’n nodau byd-eang gael eu cwblhau a’u rhyddhau mae mewnwelediad a chefnogaeth HCC yn bwysig.”

Bydd cynhadledd nesaf y Ford Gron Fyd-eang yn cael ei chynnal ar-lein ar Ebrill 14.