Morron

Mae prosiect newydd o'r enw Tyfu Dyfi - bwyd, natur a lles, yn anelu at ddangos sut y gall cymunedau fod yn ymwneud a’u systemau bwyd lleol. Bydd y prosiect yn gweithio ledled ardal Biosffer Dyfi UNESCO ac yn cael ei arwain gan ymddiriedolaeth datblygu lleol - ecodyfi.

Mae ystod o weithgareddau ar y gweill i ysgogi cadwyni cyflenwi lleol byr. I ddechrau bydd yr elfen cynhyrchu bwyd, bydd y prosiect yn helpu i sefydlu safleoedd tyfu cymunedol. Gall y rhain fod yn safleoedd sy'n bodoli eisoes sydd angen rhywfaint o sylw, neu safleoedd newydd fel gerddi cymunedol, rhandiroedd, gerddi coedwig, perllannau cymunedol, neu syniadau ar gyfer coedwigoedd bwyd, ac ati. Bydd Tyfu Dyfi hefyd yn darparu hyfforddiant garddwriaethol ar lefel broffesiynol ac yn dangos y gall Cymru fod yn fwy hunangynhaliol mewn bwyd.

Dywedodd Chris Higgins, Cydlynydd y Prosiect, “Bwriad y prosiect yw cynyddu’r farchnad ar gyfer cynnyrch ffres, iach, lleol ac ysgogi busnes lleol. Bydd hwb bwyd ar-lein arloesol yn cael ei sefydlu i gynorthwyo cyrchu, gwerthu, prynu a dosbarthu mwy o gynnyrch a dyfir yn lleol.” 

Ychwanegodd, “Bydd cyfleoedd yn cael eu darparu i’r rheini sydd eisiau gwirfoddoli, mynychu gweithdai ar dyfu, coginio a maeth - ac hefyd ar gyfer ffermwyr a thyfwyr sydd am gynyddu eu gwybodaeth am gynhyrchu. Bydd cyfleoedd i gael esboniad am gompostio a sut mae gwerth mewn gwastraff pydradwy”.

Er mwyn sicrhau'r buddion mwyaf posibl ar gyfer lles pobl, bydd y prosiect yn cydweithio â phrosiect Biosffer Dyfi “Trywydd Iach - iechyd awyr agored” wrth helpu pobl i fod yn fywiog yn yr awyr iach, er enghraifft mewn garddio cymunedol. Bydd hefyd yn helpu bywyd gwyllt trwy gynnwys lle i fyd natur mewn unrhyw safleoedd garddwriaethol newydd.

Bydd y prosiect peilot yn digwydd dros y ddwy flynedd nesaf fel rhan o Rwydwaith Gwarchodfeydd Biosffer y Byd y mae Biosffer Dyfi yn rhan ohono. Bydd yn cyfrannu at sicrhau cynhyrchu a bwyta bwyd yn fwy cynaliadwy, yn seiliedig ar weledigaeth agroecolegol o'r dyfodol - economi wledig fwy bywiog ac amrywiol, lle mae cynhyrchu bwyd yn dibynnu ar fioamrywiaeth ac yn helpu i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Mae Tyfu Dyfi yn bartneriaeth rhwng ecodyfi, Mach Maethlon, Garden Organic, Bwyd dros ben Aber, Prifysgol Aberystwyth, Fforwm Cymunedol Penparcau, a'r Ganolfan Technoleg Amgen. 

Mae Tyfu Dyfi wedi derbyn bron i £700,000 trwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) a Llywodraeth Cymru.

Mae'n ymateb i'r angen am ddiogelwch bwyd ac i'r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth. Yn ôl Arfon Hughes, Swyddog Cyfathrebu’r prosiect,

“Rydyn ni wedi dod i arfer ag ystod o fwyd sydd ar gael bob diwrnod o’r flwyddyn a dim ond, taith fer mewn car i ffwrdd. Mae silffoedd gwag dros yr wythnosau a’r misoedd diwethaf yn rhybudd nad yw ein system fwyd mor wydn ag yr oeddem yn meddwl ar un adeg. ”

I gael mwy o wybodaeth ac i gael diweddariad am y prosiect, gweler gwefan y prosiect: https://www.biosfferdyfi.cymru/tyfudyfi