Vet Ambassador Gives Autumn Calving Advice

Ar drothwy tymor lloia’r hydref ar lawer o ffermydd cig eidion, mae llysgennad milfeddygol i brosiect iechyd anifeiliaid yn annog ffermwyr i fod yn ymwybodol o glefydau metabolig a allai ddigwydd os oes newid yn y ffordd mae’r anifeiliaid yn cael eu bwydo.

Alun Evans, Stoc+ Vet Ambassador

Daw’r cyngor gan Alun Evans o Filfeddygfa Market Hall yn Sanclêr, sydd hefyd yn Lysgennad Milfeddygol i un o brosiectau Hybu Cig Cymru (HCC), sef prosiect Stoc+, a hoffai weld ffermwyr yn defnyddio proffiliau metabolig i fonitro’u buchesi. Nod y prosiect hwn yw helpu ffermwyr yng Nghymru i gydweithio'n agos â'u milfeddygon ar gynllunio iechyd yn rhagweithiol.

Mae Alun yn cynghori ffermwyr cig eidion i gadw llygad am dwymyn llaeth. Bydd y twymyn hwn yn ymddangos oddeutu’r cyfnod lloia  pan fo angen calsiwm ar y fuwch wrth iddi ddechrau cynhyrchu llaeth. Daw’r perygl mwyaf ar ôl lloia pan fo cynnydd sydyn yn y galw am galsiwm.

“Nid yw’n rhwydd gwybod a yw buwch yn dioddef o dwymyn llaeth oherwydd gall yr arwyddion cynnar fod yn anodd eu canfod. Fel arfer bydd yr arwyddion clinigol yn dechrau tua 24 awr ar ôl lloia, gyda chryndod cyhyrau, cerddediad stiff a braidd yn sigledig a malu dannedd. Yna bydd y fuwch yn gwanhau, yn mynd yn orweddol ac yn camu ei gwddf. Bryd hynny, mae'n bwysig trin y fuwch cyn gynted â phosibl cyn i’w chyflwr waethygu, a chyn i gymhlethdodau eraill -  fel bola chwyddedig – ddigwydd." 

“Mae twymyn llaeth fel arfer yn gysylltiedig â gwartheg godro ond mae’n digwydd hefyd mewn gwartheg sugno, yn enwedig y buchod hŷn a buchod croesfrid llaeth. Mae achosion yn gyffredin yn yr hydref, yn enwedig os yw gwartheg sugno ar borfa fras pan fo’r tywydd yn wlyb ac yn dechrau oeri."

“Er mwyn gwneud twymyn llaeth yn llai tebygol, gwnewch yn siŵr, wrth i’r cyfnod lloia agosáu, fod y cydbwysedd mwynau’n gywir a chadwch y gwartheg oddi ar borfa fras.”

Gallai twymyn llaeth is-glinigol hefyd fod yn bresennol yn y fuches, a gallai gael sgil-effaith ar ffrwythlondeb y buchod. Gall lefelau isel o galsiwm yn y gwaed ei gwneud yn anos i’r cyhyrau ymestyn a pheri i fuchod gymryd yn hir i loia. Os oes unrhyw ffermwr yn sylwi fod hyn yn digwydd, dylai gysylltu â’r milfeddyg i gymryd samplau gwaed.

Mae Stoc+ yn un o dri phrosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig  2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.