Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cymorthfeydd wedi eu hariannu yn llawn i fusnesau cofrestredig am bynciau amrywiol.  

“Mae cymorthfeydd Cyswllt Ffermio yn gyfle gwych i ffermwyr edrych ar ffyrdd o wella effeithlonrwydd a chynhyrchiant yn ogystal â dod yn fwy gwydn wrth ystyried y dyfodol ansicr sydd o’n blaenau.

“Yn y cymorthfeydd hyn mae cyfle i fusnesau dderbyn cyngor arbenigol un i un, yn ogystal ag adolygu arferion presennol ac asesu eu busnes.

“Bydd yr holl apwyntiadau yn cael eu rhannu ar sail cyntaf i’r felin, felly, mae busnesau yn cael eu hannog i archebu eu lle cyn gynted â phosibl.”
dywedodd Sara Jenkins, Rheolwraig Datblygu Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth Cyswllt Ffermio. 

Mae ystod eang o gymorthfeydd Cyswllt Ffermio ar gael, gan gynnwys cymorthfeydd Priddoedd a Glaswelltir sy’n gadael i ffermwyr drafod gofynion o ran maetholion, rheoli chwyn a brwyn, draenio, strwythur y pridd neu bori cylchdro.

Ar gael hefyd mae cymorthfeydd Profi Iechyd Anifeiliaid lle gall ffermwyr gael gwasanaethau samplo neu brofi ar nifer o broblemau iechyd anifeiliaid, a chael adborth a dadansoddiad gan eu milfeddyg lleol. 

Mae Cyswllt Ffermio hefyd yn cynnig cymorthfeydd Isadeiledd a Dylunio Adeiladau (sy’n cynnwys ymweliadau) i drafod gwella seilwaith ffermydd i wella effeithlonrwydd ac i leihau risgiau i’r amgylchedd.

Ymysg y cymorthfeydd Cyswllt Ffermio eraill mae Ychwanegu Gwerth at Goetir Fferm lle gall ffermwyr asesu sut y gallant ychwanegu gwerth at goetir sy’n bodoli neu goetir y bwriedir ei greu. Mae cymorthfeydd arallgyfeirio ar gael hefyd i drafod syniadau am wneud y mwyaf o’r adnoddau sy’n bodoli ar y fferm. 

Mae Cyswllt Ffermio hefyd yn rhoi cyngor busnes a thechnegol arbenigol, annibynnol trwy’r Gwasanaeth Cynghori sy’n derbyn cymhorthdal o hyd at 80% (neu wedi ei ariannu yn llawn i geisiadau gan grwpiau) yn ogystal â mentora cyfrinachol un i un wedi ei ariannu yn llawn am amrywiaeth eang o bynciau. 

Rhaid i’r holl fusnesau fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio i fod yn gymwys i fynychu’r cymorthfeydd. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol neu i gofrestru gyda Cyswllt Ffermio, ffoniwch 08456 000 813. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am glinig fydd 31 Gorffennaf 2019.

Ariennir Cyswllt Ffermio drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – datblygu gwledig rhaglen 2014-2020, sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer datblygu gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.