Bydd y gronfa Cysylltu a Ffynnu yn cefnogi ac annog prosiectau cydweithredol rhwng sefydliadau, unigolion, a gweithwyr proffesiynol creadigol, ac yn cynnig grantiau rhwng £500 a £150,000. Bydd pwyslais cryf ar gysylltu artistiaid unigol gyda grwpiau a sefydliadau sydd ddim o reidrwydd yn rhai celfyddydol, yn ogystal â llenwi’r bylchau yn seilwaith y celfyddydau y mae'r pandemig cyfredol wedi'u hamlygu.

Bydd y gronfa yn helpu i roi cyfle i leisiau sydd ddim yn cael eu clywed yn amal, ac yn gam tuag at wneud y celfyddydau yng Nghymru yn fwy cynrychioliadol a hygyrch. Mae Cyngor y Celfyddydau yn chwilio am syniadau sy'n dangos cysylltiad go iawn â phobl leol a chymunedau amrywiol Cymru.

Bydd y gronfa yn agor 7 Hydref ond y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau ar gyfer y rownd gyntaf yw 4 Tachwedd. Bydd ail rownd yn agor ddiwedd mis Ionawr fel y gall prosiectau gymryd yr amser i ddatblygu'n iawn.

Y gyllideb ar gyfer dwy rownd gyntaf Cysylltu a Ffynnu yw £4miliwn ac mae’n arian a ddosberthir gan Gyngor Celfyddydau Cymru o elw'r Loteri Genedlaethol.

Bydd manylion a chanllawiau llawn, ynghyd â manylion sesiynau briffio rhithwir, ar gael ar gwefan Cyngor Celfyddau Cymru o ddydd Llun Hydref 5, 2020.