Argo Navis - Cym

Ymunwch â ni mewn cynhadledd rithiol, fyd-eang 'Argo Navis - Dilynwch y Sêr' ar y 4ydd a'r 5ed o Hydref i ddathlu Awyr Dywyll Ynys Môn a Gwynedd.

Bydd y digwyddiad a drefnir gan Menter Môn ar y cyd â Dark Sky Wales ac mewn partneriaeth ag Awstria, Lithwania, ac Estonia i ddathlu ein Awyr Dywyll ac yn llawn dop o siaradwyr diddorol fel Jerry Bostock a fu’n gweithio I NASA ar y cynllun Apollo, Katie King o Brifysgol Caergrawnt, Dr John Banantine o'r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol a llawer mwy gan gynnwys siaradwyr lleol o Gyngor Sir Ynys Môn a pertneriaid o ranbarthau Ewrop.

Dros y ddau ddiwrnod byddwn yn ymdrin â llawer o bynciau gwahanol fel newid yn yr hinsawdd, twristiaeth, seryddiaeth, bioamrywiaeth, llygredd golau a menywod yn y gofod. Bydd yr 14 siaradwr sy'n cymryd rhan yn siarad o bob cwr o'r byd am y pynciau diddorol hyn.

Un o'r nifer o siaradwyr gwybodus sy'n cymryd rhan yw Jerry Bostick a fydd yn siarad am lawer o bethau diddorol gan gynnwys gwaith Tec Roberts, brodor o Ynys Môn, y Swyddog Dynameg Rheoli Cenhadaeth NASA gwreiddiol. Ymunodd Jerry Bostick â NASA ym 1962 a gwasanaethodd fel Swyddog Ôl-ffitio a Swyddog Dynameg Hedfan yn ystod y rhaglenni Mercury, Gemini, Apollo a Skylab. Gwasanaethodd fel Cynorthwyydd Gweithredol i Weinyddwr NASA a Chynorthwyydd Arbennig ar gyfer Rhaglenni, Swyddfa Rhaglenni Ynni ym Mhencadlys NASA.

Siaradwr arall yw Katie King o Brifysgol Caergrawnt a fydd yn ymuno â ni am sgwrs ysbrydoledig am ei gyrfa a sut y gallwch gael effaith ar ddyfodol archwilio'r gofod. Mae Katie yn angerddol iawn am ysbrydoli ac addysgu merched a menywod ifanc i fynd i yrfaoedd technoleg ac mae'n gobeithio helpu i newid y gymhareb rhywedd ar draws sectorau technoleg.

Dyma brosiect trawswladol cyntaf Menter Môn. Mae’r rhaglenni LEADER Arloesi Môn ac Arloesi Gwynedd Wledig wedi gweithio'n galed iawn i ddatblygu bond cryf gyda phartneriaid Ewropeaidd yn Lithwania, Estonia ac Awstria i wneud i'r prosiect hwn ddod yn fyw.

Eglura Jackie Lewis, Uwch Swyddog Arloesi Môn: “Mae hwn yn gyfle gwirioneddol gyffrous i weithio gyda'n partneriaid i gyflwyno ein digwyddiad ar y cyd cyntaf a fydd yn tynnu sylw at ac yn dathlu ein Awyr Dywyll. Mae Cynhadledd Argo Navis yn ddechrau rhaglen o brosiectau a digwyddiadau ym mhob rhanbarth, rhwng nawr a Mehefin 2023. Hoffem ddiolch i drefnwyr Cynhadledd Gyswllt 2018 (y Ffindir) am ddod â ni at ein gilydd fel partneriaid, a'n galluogi i wneud hynny a rhannu cyfleoedd a dysgu oddi wrth ein gilydd am bwysigrwydd Awyr Dywyll, a sut mae'n effeithio ar ein holl fywydau a'n hamgylchedd."

Yn dilyn y gynhadledd hon mae Arloesi Môn ac AGW yn gobeithio cynnig mwy o ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â’r Awyr Dywyll yn Ynys Môn a Gwynedd yn y dyfodol. 

Esbonia Rhian Hughes, Uwch Swyddog Prosiect AGW “Ein nod oedd trefnu digwyddiadau cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o Awyr Dywyll yn y ddwy sir y llynedd, ond gyda chyfyngiadau Covid, yn amlwg nid oeddent yn gallu digwydd. Fodd bynnag, rydyn ni nawr yn edrych ymlaen yn fawr at drefnu digwyddiadau cyffrous yn 2022, felly gwyliwch allan am hyn!”

Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal ar Hydref y 4ydd a'r 5ed, ac mae'n rhad ac am ddim ac ar gael yn rhithiol fel bod bosib i unrhyw berson ymuno. I weld yr holl siaradwyr ac i archebu lle am ddim yn y gynhadledd ewch i dudalen Eventbrite: www.eventbrite.co.uk/o/dark-sky-wales-training-services

Am fwy o wybodaeth ewch i mentermon.com/argo-navis neu ebostiwch Jackie@mentermon.com

Cyllidwyd a prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA), Cyngor Gwynedd ac Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.