Mae cynhyrchwyr moch o Pontsian Ceredigion wedi bachu ar y cyfle i ddefnyddio grant marchnata gan Menter Moch Cymru.
Daeth Cennydd Jones a Naomi Nicholas yn gynhyrchwyr moch wedi iddynt fod yn llwyddiannus yng nghystadleuaeth Pesgi moch Menter Moch Cymru a CFFI Cymru yn 2017.

Eglurodd Cennydd eu bod erbyn hyn yn gwerthu cynnyrch o’u cenfaint o foch Cymreig drwy gynllun bocs o dan yr enw Traed Moch a bod y grant marchnata wedi eu cynorthwyo i ddatblygu’r busnes yn fwy proffesiynol.

“Mae mor bwysig heddiw parhau i ddatblygu, ac mi roedd y cyllid yma yn ddelfrydol ar ein cyfer ni, er mwyn inni gael symud ymlaen a sicrhau bod ein cynnyrch yn cyrraedd ein cwsmeriaid yn edrych mor broffesiynol â phosib.”

Bwriad y grant o £750 gan Menter Moch Cymru oedd galluogi cynhyrchwyr i hyrwyddo eu busnes a’u cynhyrchion porc. Ac i fabwysiadu ymagwedd ymarferol gan weithio gyda chwmni dylunio cymeradwy i ddatblygu deunyddiau hyrwyddo pwrpasol fel taflenni, labeli, ffotograffiaeth, hysbysebion digidol a gwaith graffeg. Gall y cyllid hefyd gael ei ddefnyddio tuag at gostau argraffu a chynhyrchu.

Fel rhan o’r grant yn ôl dymuniad Cennydd a Naomi cafwyd bocsys pwrpasol wedi eu creu er mwyn dosbarthu’r cig gyda’i logo nhw wedi ei selio ar y bocsys.  Hefyd penderfynwyd ar bamffledi addysgiadol lliwgar er mwyn cyfleu ei stori unigryw i’w rannu gyda darpar gwsmeriaid newydd ac i gyd-fynd gyda’r bocsys cig.  

“Ein bwriad ni gyda’r grant marchnata oedd cael pecynnau mwy cynaliadwy a hefyd pamffledi. Dwi’n meddwl ei fod yn hynod bwysig bod y cyhoedd yn cael gwybod ein stori unigryw ni a dyma sydd ar gael wrth ddarllen y pamffled sydd yn cyd-fynd gyda’r bocs.  Felly'r syniad yw bob tro mae rhywun yn prynu bocs maent yn cael eu cyflwyno i’n stori fach ni yng nghefn gwlad Cymru, am gwmni sydd yn cynhyrchu cig o safon uchel ac yn magu moch brodorol Cymreig,”

Meddai Naomi.

“Yn sicr mae wedi bod yn ddatblygiad mawr inni fel cwmni. Mae’n gam mawr ymlaen.”

Ychwanegodd.

Fel rhan o’r ystod eang o gyngor a chymorth busnes sydd ar gael i fentrau moch, mae Menter Moch Cymru yn annog cynhyrchwyr moch i fynd am y grant i gynhyrchu deunyddiau hyrwyddo wedi’u brandio ar gyfer ei busnes eu hunain.
Wrth drafod y broses o fynd am y cyllid dywedodd Cennydd fod y broses yn un syml iawn ac iddo gael gymaint o gymorth a brwdfrydedd gan dîm Menter Moch Cymru. 

“Yn wir fyddai creu'r deunyddiau yma ar gyfer ein busnes ddim wedi bod yn bosib heb gymorth a brwdfrydedd Menter Moch Cymru.

“Roedd y broses yn hollol slic a syml.  Mae’r ddau ohonom yn gweithio llawn amser ac felly yn eithaf dibynnol bod pethau yn mynd yn eithaf rhwydd, ond roedd o’n grêt. Roedd cyngor gan Menter Moch Cymru wrth law bob amser, roedd o mor werthfawr â hyblygrwydd y tîm wedi ein helpu ar hyd y ffordd,” ychwanegodd.

“Cafwyd yr hyblygrwydd i weithio gyda chwmnïau Cymraeg lleol, roedd hyn yn bwysig inni’n dau er mwyn cefnogi'r economi leol.  Yn bendant faswn ni ddim wedi llwyddo heb gael y cymorth gan Menter Moch Cymru,”

Meddai Naomi.

“Mae’r ymateb gan y cyhoedd wedi bod yn hynod bositif, mae nifer fawr erbyn hyn eisiau gwybod be maen nhw’n ei fwyta ac o le mae’r bwyd yn dod a dwi’n credu bod ein cyflwyniad ni i’r busnes ac ein stori ni drwy’r pamffled yn gymorth yn y maes yma.. Diolch I Menter Moch Cymru a’r cyllid yma mae ein cwmni bach ni wedi datblygu i edrych yn broffesiynol gyda deunyddiau o safon uchel sydd yn ein cynorthwyo i gyfathrebu ein brand a’n delwedd,”

Ychwanegodd.

Gyda chadw moch yn brofiad newydd I Cennydd a Naomi mae’r cymorth maen nhw wedi ei dderbyn gan Menter Moch Cymru wedi bod yn amhrisiadwy.

“Den ni wedi elwa gymaint o hyfforddiant, gwebinarau a grwpiau trafod.  Mae 'na gymaint wedi bod ar ein cyfer.  Den ni heb deimlo ar ben ein hunain o gwbl, Mae 'na gymuned ymysg y cynhyrchwyr moch  ac mae wedi bod yn ddiwylliant o addysgu ein gilydd. Mae wedi bod yn awyrgylch braf i ddysgu a meithrin cysylltiadau Newydd,”

Meddai Cennydd.

Dywedodd Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru,

“Mae’n braf gweld busnesau yn datblygu o ganlyniad i’r grant marchnata sydd ar gael i holl gynhyrchwyr moch yma yng Nghymru. O ystyried y sefyllfa bresennol o ganlyniad i Covid-19, mae mwy o angen fyth i gynhyrchwyr ddefnyddio cymaint o ddulliau marchnata ag y bo modd i ehangu nifer eu cwsmeriaid ac i dynnu sylw at eu cynhyrchion a’u gwasanaethau. Trwy wneud hyn, byddant yn codi ymwybyddiaeth o ansawdd ac argaeledd porc o Gymru hefyd.

“Rydym yn byw mewn cyfnod nas gwelwyd ei debyg erioed o’r blaen, felly teimlwn fod y cynnydd hwn o ran y cymorth i gynhyrchwyr yn amserol ac yn adlewyrchu pwysigrwydd cynyddol cael hunaniaeth brand cadarn sy’n adlewyrchu ansawdd a
tharddiad eu porc mewn ffyrdd sy’n ddeniadol i ddefnyddwyr,”

Ychwanegodd.

Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.