Pork

Bydd cynhyrchwyr moch o bob cwr o Gymru yn gallu creu deunyddiau hyrwyddo wedi’u teilwra fel rhan o fenter sy’n cael ei lansio gan raglen Menter Moch Cymru. 

Bydd y fenter yn helpu cynhyrchwyr moch i hyrwyddo eu brand drwy greu deunyddiau marchnata wedi’u teilwra a deunyddiau ar gyfer mannau gwerthu. Bydd y rhain yn galluogi busnesau i dynnu sylw at eu cynnyrch a’u gwasanaethau - a thrwy wneud hyn, byddant yn codi ymwybyddiaeth o ansawdd ac argaeledd porc o Gymru.

Fel rhan o’r gefnogaeth fusnes a ddarperir gan Menter Moch Cymru, gall busnesau gal mynediad at gyllid o hyd at £500 i weithio gyda chwmni dylunio cymeradwy  ddatblygu deunyddiau hyrwyddo wedi’u brandio, megis taflenni, labeli, hysbysebion digidol a graffeg.

Nod prosiect Menter Moch Cymru yw cefnogi a datblygu’r sector moch yng Nghymru. Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

 

menter moch

Dywed Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru, “Mae’n bwysicach nag erioed i fusnesau hyrwyddo eu hunain a’u cynnyrch. Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod cwsmeriaid yn prynu mwy o’u bwyd gan fusnesau lleol, felly rydym ni wedi lansio’r cyllid newydd hwn i helpu’r mentrau hynny sy’n rhan o’r sector moch yng Nghymru i sicrhau eu bod yn manteisio’n llawn ar y tueddiadau newydd hyn i adeiladu eu brand ar gyfer y dyfodol.”

“Trwy chwarae rhan ymarferol yn y broses o ddylunio eu deunyddiau marchnata, bydd busnesau’n gallu cyfleu eu stori i’r cyhoedd ehangach, ychwanegu gwerth at yr hyn maen nhw’n ei gynnig, a gobeithio y gallant gynyddu nifer eu cwsmeriaid.”

“Yn ogystal, gobeithio y bydd yn arwain at well dealltwriaeth ymysg y cwsmeriaid o’r porc ardderchog sy’n cael ei fagu yng Nghymru.”