pobl mewn dŵr

Yn agor        3 Chwefror 2020
Yn cau         13 Mawrth 2020

Nod y rownd Datgan Diddordeb hon yw darparu cymorth i gyrff cyhoeddus, busnesau, sefydliadau neu gymunedau i ddatblygu dulliau cydweithio ar draws sectorau gydag amrywiaeth o randdeiliaid ar y raddfa gywir i gyflawni amryfal amcanion a chanlyniadau drwy sicrhau "bod pethau newydd yn digwydd".

Wrth lunio ceisiadau, rhaid mabwysiadu dull strategol a holistaidd, a thrafod yn rhagweithiol gyda phobl Cymru drwy gyd-ddylunio a chyd-gyflenwi. Drwy gydweithio, dylent ddatblygu atebion arloesol a gweithredu ar faterion sy'n bwysig i gymunedau, gan wella'r amgylchedd ar gyfer llesiant pobl, cymunedau a bywyd gwyllt.  

Ffefrir dull sy'n seiliedig ar leoedd gan ganolbwyntio ar gyflenwi canlyniadau mesuradwy ar raddfa sy'n sicrhau manteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ynghyd â manteision amgylcheddol.

Rhaid i'w canlyniadau fod yn glir a defnyddio data cadarn i fod yn sail i'w cais a/neu arddangos sut y bydd tystiolaeth o'r fath yn cael ei chasglu fel rhan o'r prosiect.

Gall gweithgareddau gynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i: 

  • Wella ac ehangu ansawdd yr amgylchedd lleol; 
  • Mynd ati'n weithredol i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy; 
  • Datblygu a gwella mynediad i seilwaith gwyrdd cynaliadwy; a
  • Gwella cydnerthedd ecosystemau. 

Wrth gyflenwi'r gweithgareddau uchod, rhaid ystyried cyfleoedd i hyrwyddo:

  • Presgripsiynu gwyrdd; 
  • Atebion sy’n seiliedig ar natur;
  • Cysylltiadau cliriach rhwng adnoddau naturiol a llesiant;
  • Gwirfoddoli; 
  • Hyfforddiant ac addysg; a
  • Newid ymddygiad. 

Rhaid i gynigion adlewyrchu graddfa a hyd a lled prosiectau gan sicrhau bod hynny'n cyd-fynd â natur y sector neu'r grwpiau thematig y bydd angen cysylltu â nhw.

Ddordeb mae’n rhaid i geisiadau llawn gael eu cyflwyno erbyn 3ydd Gorffennaf 2020.


Canllawiau'r Cynllun: https://llyw.cymru/cynllun-galluogi-adnoddau-naturiol-llesiant-yng-nghymru-enraw-canllawiau 

Datganiad o Ddiddordeb – Meini prawf a ffurflen gais: https://llyw.cymru/cynllun-galluogi-adnoddau-naturiol-llesiant-yng-nghymru-enraw-datganiad-o-ddiddordeb-meini-prawf?_ga=2.117392326.1920595302.1580721227-1916511635.1548934961