Glastir small grants

Bydd y rownd nesaf o Grantiau Bach Glastir – Tirwedd a Phryfed Peillio yn agor ar 18 Mai 2021 ac yn cau ar 25 Mehefin 2021.  Mae cyllideb o £1,500,000 ar gael ar gyfer y rownd hon. 

Rhaglen o waith cyfalaf yw Grantiau Bach Glastir, i fusnesau ffermio ym mhob rhan o Gymru sydd am gynnal prosiectau a fydd yn helpu i wella a chynnal nodweddion traddodiadol y dirwedd ac i gysylltu cynefinoedd pryfed peillio â’i gilydd.

Bydd yr eitemau Gwaith Cyfalaf yn cael eu rhannu’n ‘Brif Waith’ a ‘Gwaith Eilaidd’ a byddant gyda’i gilydd yn ffurfio ‘Prosiect’. Bydd Prosiect yn cynnwys: 

  • Y Prif Waith Cyfalaf, a fydd yn mynd i’r afael ag amcanion y thema a lle bo hynny’n gymwys; 
  • Y Gwaith Cyfalaf Eilaidd, a fydd yn ei gwneud yn bosib cynnal y Prif Waith Cyfalaf yn effeithiol. 

Am ragor o wybodaeth am y cynllun hwn, cliciwch yma.