Yn rhan o'n prosiect PestSmart, rydyn ni'n cynnig cynllun gwaredu cyfrinachol rhad ac am ddim i waredu unrhyw blaladdwyr a chwynladdwyr dieisiau, sydd wedi darfod neu na ellir eu trwyddedu mwyach sy'n anodd neu'n ddrud eu gwaredu. Mae’r cynllun yn agored i ffermwyr, tyfwyr, ciperiaid, coedwigwyr a rheolwyr tir.
Trwy ddarparu'r cynllun gwaredu yma ar draws Cymru ac yn nalgylchoedd dŵr yfed Dŵr Cymru Welsh Water yn Lloegr, rydyn ni'n gweithio gyda rheolwyr tir i ddiogelu ansawdd dŵr crai cyn iddo gyrraedd ein gweithfeydd trin dŵr.
Rhaid i chi gofrestru ar gyfer y cynllun hwn erbyn 5pm dydd Gwener, 18 Hydref.
Cofrestru - Rhaid i chi gofrestru gyda ni erbyn 5pm dydd Gwener, 18 Hydref.
I gofrestru gydag aelod o'r tîm PestSmart, ffoniwch 01443 452716.