Gwenno with pigs

Mae ffermwyr moch yng Nghymru yn mwynhau manteision dyfodol iach ar gyfer eu cenfaint a sefyllfa ariannol eu fferm trwy fanteisio ar Gymorth Cynllun Iechyd Cenfaint Menter Moch Cymru.

Mae Cynllun Iechyd y Genfaint Menter Moch Cymru yn meithrin perthynas waith agos rhwng ffermwyr a milfeddygon, gan greu strategaeth wedi'i theilwra i anghenion y fferm a'r genfaint unigol. 

Trwy Fenter Moch Cymru, gall ffermwyr moch cymwys fanteisio ar gyllid ar gyfer 80% o gost y cynllun – hyd at £300 – yn ogystal â chyngor wedi'i deilwra er mwyn helpu i wella iechyd a chynhyrchiant eu cenfaint (https://menterabusnes.cymru/mentermochcymru/herd-health/)

Dywedodd Elin Haf Jones, Swyddog Datblygu Menter Moch Cymru, “Nod y Cynllun Iechyd y Genfaint yw gwella iechyd y genfaint, lles moch a rheoli clefydau.  Yn y pen draw, mae hyn yn arwain at well effeithlonrwydd a chynaladwyedd, ynghyd ag elw uwch ar gyfer y fferm."

“Mae'r broses yn cynnwys ymgynghori gyda milfeddyg a sgrinio iechyd y genfaint am amrediad o glefydau;  yn ogystal â chyngor ynghylch brechu, bioddiogelwch a pherfformiad magu.”

Un ffermwr sydd wedi gweld gwahaniaeth sylweddol i'w chenfaint o foch – ac i sefyllfa ariannol y fferm – ers iddi gychwyn ar y Cynllun Iechyd Cenfaint, yw Gwenno Pugh.

Mae Gwenno wedi bod yn cadw hychod Gwyn Mawrion a Chymreig ar ei fferm ym Mhenmynydd ger Llanfair PG, Ynys Môn, ers deng mlynedd, yn ogystal â rhedeg uned buchod sugno eidion a defaid.

Ar hyn o bryd, mae 30 o hychod ar y fferm, a dros y blynyddoedd diwethaf, mae Gwenno wedi bod yn gweithio i sicrhau bod y fenter moch yn cynnwys mwy o ffocws ar fusnes.  Mae hi'n pesgi tua 550 o foch y flwyddyn, ac yn y pen draw, mae hi'n gobeithio cael hychod Cymreig yn unig ar y fferm.

Defnyddir proses Ffrwythloni Artiffisial (AI) ar gyfer pob hwch, gan ddefnyddio hybrid Pietrain (Maximus-Klasse).  Defnyddir AI Cymreig i gadw hesbinychod a defnyddir baedd y fferm ar gyfer rhai achosion eildro.

Yna, gwerthir y moch i'r lladd-dy yn uniongyrchol.  Mae Gwenno wedi mabwysiadu trefniant llymach hefyd wrth ddewis, er mwyn sicrhau perfformiad da, trwy werthu unrhyw hychod sy'n tanberfformio.

Gyda chymorth Menter Moch Cymru a Geraint Jones o filfeddygon Pwllheli, Milfeddygon Deufor, mae Gwenno wedi llwyddo i weithredu Cynllun Iechyd Cenfaint ac mae'n elwa ar y manteision.

Mae rhaglen frechu wedi cael gwared ar broblemau a welwyd yn flaenorol gyda chlefydau megis parfofeirws y moch (PPV), Niwmonia Mycoplasma, a PCV.  Mae'r ymyrraeth hon wedi arwain at gyfnod pesgi cyflymach, ac o ganlyniad, mae wedi gwneud arbedion gwerthfawr.

Dywedodd Gwenno, “Heb os, byddwn yn annog pobl i fanteisio ar y Cynllun Iechyd y Genfaint trwy gyfrwng Menter Moch Cymru.  Trwy brofi gwaed a brechu'r moch, rydw i'n cael llai o broblemau gyda fy nghenfaint bellach."

“Cyn hyn, arferwn gael problemau gyda thoreidiau bychain ac ymgeision AI aflwyddiannus a oedd o ganlyniad i PPV.  Yn yr un modd, cynhaliwyd profion ar fy nhoreidiau diddyfnu a oedd yn tanberfformio, ac mae gennyf raglen frechu ar gyfer PCV erbyn hyn.  Ac mae problem beswch – a oedd yn arwain at dyfiant arafach – wedi cael ei datrys gan frechlyn Niwmonia Mycoplasma.”

Mae hi'n canmol y rhaglen frechu am sicrhau bod ei moch yn mynd oddi ar y fferm 10-14 diwrnod yn gynharach nag yr oeddent o'r blaen, gan arbed tua £7 y pen iddi.  Mae'n arbediad enfawr wrth sicrhau cydbwysedd rhwng elw bychan ar foch a chostau porthi uchel.

Dywedodd Gwenno, “Dim ond ychydig bunnoedd y pen y mae brechiadau'n eu costio, ac yn y tymor hir, mae'r manteision i'r busnes yn wych.  Hefyd, mae gallu cydweithio'n agos gyda'r milfeddyg yn ddefnyddiol iawn, oherwydd y gallaf ofyn cwestiynau a chael y cymorth y mae ei angen arnaf ar gyfer iechyd fy nghenfaint.”

Ariannir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.