Mae’r broses mapio cymunedol yn fodd o ddod â chymuned ynghyd i ganolbwyntio ar y pethau cadarnhaol yn yr ardal, gan gydnabod bod gan bawb rywbeth i’w gynnig a cheisio chwilio am atebion i unrhyw broblemau sy’n codi.
Mae’r broses mapio cymunedol yn ffordd o ddod â’r gymuned ynghyd i ganolbwyntio ar y pethau cadarnhaol yn yr ardal, gan gydnabod bod gan bawb rywbeth i'w gynnig a cheisio edrych ar ddatrysiadau i broblemau sy'n codi.
.

Manteision Mapio Cymunedol
Mae yna lawer o fanteision i fapio cymunedol, gan gynnwys:
- Adeiladu ar y cryfderau sydd eisoes yn y gymuned
- Meithrin perthnasau a phartneriaethau newydd
- Galluogi’r gymuned i ymchwilio a bod yn ymwybodol o’u hasedau
- Nodi adnoddau newydd
- Darparu gwybodaeth i randdeiliaid
- Darparu tystiolaeth o’r angen am gyllid allanol
Mae’r pecyn cymorth mapio cymunedol wedi’i ddylunio i helpu pobl sydd eisiau ymgysylltu â’u cymunedau.
Mae’n cynnig cymorth a chyngor ar sut i gyrraedd amrywiaeth o bobl, gyda llawer o adnoddau cymorth ymarferol i'ch rhoi chi ar ben ffordd.