Yn ôl ymchwil a amlygwyd gan Menter Moch Cymru (MMC), mae gwerthiant porc yn dda iawn, gyda siopwyr ffyddlon yn dod yn ôl am ragor.

Manylir ar y canfyddiadau yn yr erthygl dechnegol ddiweddaraf gan MMC - prosiect sy'n gweithio gyda phob sector o'r gadwyn gyflenwi i ddatblygu diwydiant moch mwy cynaliadwy, proffidiol a chadarn yng Nghymru.

Mae MMC yn cynhyrchu erthyglau technegol misol dan arweiniad arbenigwyr sy'n canolbwyntio ar bynciau gwahanol, perthnasol ac amserol. Anfonir yr erthyglau yn uniongyrchol i dros 600 o fusnesau, ac maent hefyd ar gael ar www.mentermochcymru.co.uk

Wedi'i lunio gan Category Insight ar gyfer Llywodraeth Cymru fel rhan o'i chefnogaeth i fusnesau Cymru, mae erthygl mis Tachwedd yn cynnwys y data defnyddwyr diweddaraf ynghylch gwerthiannau porc ac yn dadansoddi'r rhesymau y tu ôl i'r ffigyrau.

O ran gwerthiannau, porc yw'r categori sy’n tyfu ail gyflymaf*. Gyda gwerthiant wedi cynyddu 8.4% ers 2019, mae porc yn perfformio hyd yn oed yn well na chyfanswm y farchnad cig, pysgod a dofednod.

Un rheswm allweddol yw bod siopwyr sydd eisoes yn prynu porc ffres - toriadau yn hytrach na chynhyrchion wedi'u prosesu - yn prynu mwy, ac yn amlach**.

Mae canran poblogaeth Prydain sy'n prynu porc mewn archfarchnadoedd wedi aros fwy neu lai yn sefydlog, gyda 67% yn prynu porc ffres yn rheolaidd. Hefyd, mae'r pris fesul kg wedi aros yn weddol sefydlog ar £4.80 y pecyn. Fodd bynnag, roedd siopwyr yn prynu porc ffres naw gwaith y flwyddyn ar gyfartaledd - ffigur sydd wedi cynyddu 3% o'i gymharu â'r llynedd**.

Mae ymchwil hefyd wedi dangos sut mae pandemig Covid-19 wedi newid agweddau siopwyr ynghylch cynnyrch lleol, gydag arolwg*** diweddar yn dangos bod 53% o brif siopwyr yng Nghymru bellach yn ceisio prynu cynnyrch bwyd a diod lleol.

Mae newyddion da o'n blaenau hefyd, gan fod y data'n dangos bod gwerthiant cig, pysgod, dofednod, a phorc yn dal i fod yn llawer uwch na lefelau 2019 wrth i ni symud tuag at fisoedd yr hydref a'r gaeaf.

Roedd 2020 yn flwyddyn anghyffredin oherwydd pandemig Covid-19 a'r cyfnodau clo a achosodd i bobl wario o fewn y sector manwerthu yn hytrach nag ar fwyta allan. Mae'r gymhariaeth â ffigurau gwerthiant 2019 yn un mwy perthnasol, oherwydd hyn gallwn weld tueddiadau tymor hwy, er enghraifft, bod y categori Cig, Pysgod a Dofednod mewn manwerthu ar drywydd twf eithaf cryf.

Dywedodd Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru, “Rydyn ni bob amser yn ceisio darparu deunydd sy'n addysgiadol, yn ddefnyddiol ac sy'n rhoi mewnwelediad pellach i'r diwydiant moch. Rwy’n siŵr y bydd y data sy’n cael ei gynnwys yn erthygl MMC ym mis Tachwedd yn newyddion da gan ei fod yn dangos y cynnydd yn awydd y defnyddwyr i fwyta porc.”

Gellir cael hyd i erthygl dechnegol lawn mis Tachwedd ar Hwb Adnoddau MMC www.mentermochcymru.co.uk. Bydd erthygl y mis nesaf yn canolbwyntio ar dueddiadau cig a rhagolygon ymddygiad defnyddwyr.

Ariennir Menter Moch Cymru gan Raglen Cymunedau Gwledig - Rhaglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.