Porth M-SParc

Mae synwyryddion deallus pŵer isel sy'n manteisio ar dechnoleg ddiwifr yn casglu data pwysig ar safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio drwy Gymru ac yn rhannu'r manteision gyda ffermwyr a busnesau gwledig eraill.

Nid yw amlder radio LoRaWAN (Rhwydwaith Mynediad Ardal Eang Pŵer Isel) yn newydd – fe'i defnyddir dros y byd mewn amryw o sefyllfaoedd.

Mae'n arbennig o fuddiol mewn ardaloedd gwledig lle nad yw isadeiledd cyfathrebu yr hyn y dylai fod, ond nid yw wedi cael ei ddefnyddio'n helaeth yng Nghymru hyd yma.

Mae Cyswllt Ffermio yn arwain y ffordd drwy ariannu'r gwaith o osod dyfeisiau porth LoRaWAN ar ei ffermydd arddangos. Mae gan y porth antena bach sydd yn cael ei osod ar adeiladau fferm ar ffermydd da byw, dofednod a ffermydd llaeth.

Gall y rhain gysylltu â nifer fawr o synwyryddion sy'n casglu data a'i drosglwyddo i ddangosfyrddau ar ffonau symudol a dyfeisiau eraill, sy’n gwneud y gwaith dadansoddi’n hawdd.  

Unwaith y bydd y system wedi'i sefydlu, gall ffermwyr ddefnyddio'r data hwn i’w helpu i wneud penderfyniadau o fewn eu busnesau, a chyfiawnhau’r penderfyniadau hynny.

Un enghraifft yw safle arddangos Wern, ger y Trallwng, lle mae synwyryddion wedi'u gosod y tu mewn a'r tu allan i siediau ieir maes i fonitro lleithder, tymheredd a lefelau golau yn ogystal â chrynodiadau o amonia a charbon deuocsid.

Mae hyn yn caniatáu i’r ffermwr Osian Williams gynnal yr amodau gorau posibl ar gyfer ei 32,000 o adar.

Mae'r synwyryddion hefyd yn gysylltiedig â systemau anweddu awtomatig sy'n cael eu hysgogi i chwistrellu bacteria nad ydynt yn heintus ar adegau penodol neu pan fydd data a gesglir gan y synwyryddion yn canfod lefelau uchel, i fynd i'r afael â heriau yn sgil organebau heintus.

Mae Wern yn un o 18 safle yn rhwydwaith safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio lle mae synwyryddion wedi neu am gael eu gosod.

Datblygwyd synwyryddion ar y cyd â chwmnïau amaeth-dechnoleg a ffermwyr i gyfateb yn benodol â themâu'r prosiect a gofynion casglu data'r rhain.

Rheolwyd y dasg o osod y pyrth gan Dewi Hughes, Rheolwr Datblygu Technegol Cyswllt Ffermio, ac fe'i darparwyd gan Cymru Digital, consortiwm o bartneriaid ac arbenigwyr o bob rhan o Gymru, gan gynnwys y partner arweiniol, y sefydliad dielw Menter Môn.

Dywedodd Mr Hughes mai un o brif amcanion Cyswllt Ffermio yw arwain y ffordd a dangos technoleg newydd ac arloesol ar ei rwydwaith o safleoedd arddangos. 

"Rydym am wybod a all y dechnoleg hon fod o fudd i'r diwydiant ffermio, a sut, fel y gall diwydiant ffermio Cymru arwain y ffordd ar ddatblygiadau technolegol newydd. Rydym hefyd yn ymwybodol y gallai'r prosiect hwn fod o fudd i holl ardaloedd gwledig Cymru.

Mae gan bob porth gyrhaeddiad daearyddol sylweddol fel bod ffermwyr ac eraill yn yr economi wledig, y tu hwnt i'r safleoedd arddangos, yn cael cyfle i archwilio ac arbrofi gydag ef, ychwanegodd.

Mae Matthew Macdonald-Wallace, arbenigwr ym maes technoleg LoRaWAN, wedi gweithio gyda Cyswllt Ffermio i osod y pyrth.

Dywed fod y posibiliadau y mae'r dechnoleg yn eu cynnig i ffermwyr yn bellgyrhaeddol.

“Gan fod y synwyryddion hyn yn bŵer isel gallant redeg ar 2 fatri AA am hyd at 10 mlynedd felly mae'n golygu y gellir eu defnyddio ar draws y fferm, efallai mewn priddoedd neu gnydau i ddangos yn union pryd yw’r amser gorau i blannu cnydau a gellir eu gadael yno am flynyddoedd i gasglu a throsglwyddo data i'r ffermwr,'' meddai Mr Macdonald-Wallace, o Mockingbird Consulting Ltd.

Dr Rob Shepherd o EvoMetric sy’n darparu'r gwasanaethau technegol.

Gyda Cyswllt Ffermio yn arloesi gyda'r dechnoleg hon ar safleoedd arddangos, mae'n caniatáu i bob fferm drwy Gymru archwilio sut y gall y dechnoleg hon wella gweithgareddau ffermio, meddai Dr Shepherd.

"Mae cyfathrebu gwledig bob amser yn her, ond bydd y dechnoleg pellter hir hon hefyd yn caniatáu i ffermydd o fewn pellter penodol i'r safleoedd arddangos dreialu synwyryddion ac apiau a chael mynediad cynnar i ddatblygiadau newydd o fewn amaethyddiaeth a thechnoleg,'' meddai.

Bydd cael rhagor o wybodaeth drwy'r dechnoleg hon yn caniatáu i ffermwyr wneud penderfyniadau rheoli y gellir eu cyfiawnhau er budd eu busnesau. 

Bydd canfyddiadau'r prosiectau y mae'r data'n cyfrannu atynt yn cael eu rhannu â’r diwydiant ffermio ehangach.

Dyddiau cynnar yw hi ar y dechnoleg, yn enwedig yn y cyd-destun amaethyddol, ond mae Cyswllt Ffermio yn cefnogi ffermwyr Cymru i'w deall a'i chroesawu, ychwanegodd Mr Hughes.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.