buwch a giât

Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig ystod eang o gefnogaeth ar gyfer busnesau fferm er mwyn gallu meincnodi eu perfformiad ffisegol ac ariannol. 

Bydd meincnodi yn eich galluogi i gael gwell dealltwriaeth o sut mae eich busnes yn perfformio a’ch cynorthwyo i greu busnes a diwydiant hyderus a chadarn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. 

Un o’r systemau cefnogi sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio yw’r adnodd ar-lein Mesur i Reoli- dull arloesol a rhyngweithiol ar gyfer meincnodi, sy’n galluogi busnesau cig coch gasglu a chofnodi data ffisegol ac ariannol er mwyn meincnodi perfformiad o flwyddyn i flwyddyn. 

Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig gweithdai Mesur i Reoli er mwyn egluro sut i ddefnyddio’r adnodd ar-lein Mesur i Reoli i’w lawn botensial er mwyn gallu meincnodi perfformiad eich busnes. 

Am ragor o wybodaeth am y gweithdai hyn neu i archebu eich lle, ewch i wefan Cyswllt Ffermio, neu cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu lleol. 

Mae gan Cyswllt Ffermio hefyd fodiwl E-ddysgu Mesur i Reoli all gael ei gwblhau yn eich amser eich hun a gallwch ail ymweld ag o ar unrhyw adeg er mwyn eich cynorthwyo i ddefnyddio’r adnodd ar-lein Mesur i Reoli. 

Mae’r llyfrau nodiadumeincnodi ar gael drwy Cyswllt Ffermio yn eich galluogi i gofnodi a chasglu data byw ar eich fferm wrth i chi weithio ar y fferm yn ystod y dydd, ac yna gellir ei drosglwyddo’n rhwydd i’r adnodd ar-lein Mesur i Reoli. 

Mae Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio yn cynnig hyd at 80% o gyllid tuag at gyngor cynllunio busnes a chefnogaeth meincnodi.

Yn ogystal, mae grwpiau trafod Cyswllt Ffermio yn darparu cyfle i ddysgu gan berchnogion busnes eraill, er mwyn trafod heriau ac ystyried cyfleoedd yn ogystal â chanfod ffyrdd newydd neu wahanol o weithio. Mae’n ofynnoli bob aelod o grŵp trafod feincnodi eu perfformiad ffisegol ac ariannol yn erbyn busnesau tebyg. 

Mae dyddiadau, amseroedd a lleoliadau’r gweithdai fel a ganlyn:

 

  • 20/09/2019    14:00 – 17:00    Fferm Fronlas Farm, NPTC Group, Ffordd Mochdre, Y Drenewydd, Powys SY16 4JA
  • 23/09/2019    14:00 – 17:00    North Wales Training , North Wales Training, St Davids House, Parc Busnes Mochdre, Bae Colwyn LL28 5HB
  • 24/09/2019    14:00 – 17:00    Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt, Second Avenue, Gwersyllt , Wrecsam LL11 4ED
  • 26/09/2019    14:00 – 17:00    NPTC  Coleg Bannau Brycheiniog, Penlan, Aberhonddu LD3 9SR
  • 27/09/2019    14:00 – 17:00    Canolfan Gymunedol Bloomfield, Redstone Road, Arberth, Sir Benfro SA67 7ES
  • 30/09/2019    14:00 – 17:00    The Media Resource Centre, Ffordd Oxford, Llandrindod, Powys LD1 6AH

Os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth am sut all Cyswllt Ffermio eich cynorthwyo gyda meincnodi perfformiad eich busnes, neu os oes gennych ddiddordeb mewn un o’r darpariaethau cefnogaeth sydd ar gael, cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu lleol. 

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau Cyswllt Ffermio, ewch i wefan Cyswllt Ffermio neu cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813.
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.