Calving interval data for beef dams in Wales released

Mae lleihau’r bwlch rhwng lloia – a thrwy hynny gynyddu nifer y lloi gan bob buwch yn ystod ei hoes – yn welliant allweddol y dylai ffermwyr cig eidion anelu ato er mwyn gwneud eu buchesi’n fwy  effeithlon.

Yn ddiweddar, dadlennodd Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS) ddata am fwlch lloia gwartheg cig eidion Cymru ar gyfer 2019. Mae’n dangos fod y gwartheg hyn, ar gyfartaledd, wedi lloia pan oedden nhw’n 1,013 diwrnod oed, sef 12 diwrnod yn hŷn nag yn 2018.

Yn ôl adroddiad BCMS ar gyfer 2019, roedd gwartheg cig eidion yng Nghymru yn cynhyrchu llo newydd bob 426.1 diwrnod. Mae hyn i’w gymharu â dim ond 422.7 diwrnod yn 2018, ond yn debyg i’r bwlch lloia cyfartalog yn 2017.

Un ffermwr sydd â bwlch lloia llai na’r cyfartaledd yw David Burnhill, Prif Stocmon Ystâd Hean Castle yn Sir Benfro. Mae gan yr ystâd fuches o 90 o wartheg Henffordd pedigri, a’r gobaith yw cynyddu nifer y buchod magu i 130, a’u rhannu rhwng lloia gwanwyn a hydref.

Cows

Esboniodd Mr Burnhill: “Ar hyn o bryd, mae’r bwlch lloia yn 369 diwrnod. Mae rheoli’r heffrod yn y gwanwyn yn eithaf rhwydd, oherwydd maen nhw’n cael eu dethol o blith lloi’r flwyddyn flaenorol ar sail eu maint a’u gwedd. Mae’r heffrod hyn wedyn yn cael eu cydamseru o ran dod yn wasod ac yn cael eu cyfebru ar gyfer lloia rhwydd. Mae’r ail grŵp o heffrod yn cael pori a thyfu cyn cael eu cyfebru yn ystod y gaeaf er mwyn lloia yn yr hydref."

“Cyn eu cyfebru, bydd sylw manwl yn cael ei roi i borthiant ac iechyd y grŵp o heffrod sy’n llia yn yr hydref.  Bydd moddion a brechlynnau yn cael eu cynllunio a’u rhoi ymlaen llaw, a bydd y porthiant yn cael ei gynyddu er mwyn ceisio cael y cyfraddau beichiogi gorau posibl.”

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn cydweithio â nifer o ffermwyr sydd am wneud eu buchesi’n fwy ffrwythlon a chael bwlch lloia byrrach.  Mae’r cydweithio’n digwydd trwy brosiect iechyd priadd a buchesi Stoc+.  Mae hwn yn elfen o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch (RMDP), sef menter dros gyfnod o bum mlynedd sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd i wella’r sector cig coch yng Nghymru.

Dr. Rebekah Stuart

Arweinydd y prosiect yw Swyddog Gweithredol HCC dros Iechyd Praidd a Buches, Dr. Rebekah Stuart, sy’n esbonio: “Mae bridio a ffrwythlondeb yn un o agweddau pwysicaf rhedeg system gwartheg sugno effeithlon oherwydd gall ffrwythlondeb gwael gael effaith ddifrifol ar gynnyrch incwm y fferm. Mae’n bwysig cael cyfnod lloia penodol a phennu amcanion clir o ran bylchau lloia. Trwy gyfrwng y prosiect, bydd y tîm yn cydweithio â ffermwyr sy’n cymryd rhan er mwyn ceisio cael bylchau lloia byrrach.

“Mae ’na le am wellant yng Nghymru. Dylai cynhyrchwyr ymdrechu i gael bylchau lloia byrrach er mwyn gwneud eu buchesi’n fwy effeithlon a chael gwell cyfle o fod yn fwy proffidiol.”

Cefnogir Stoc+ gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.