Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ynghylch cynllun strategol a chenhadaeth i ddatblygu'r sector bwyd a diod.
Mae'r cynigion yn cynnwys y canlynol:
- targedu buddsoddiadau, cymorth, arloesi a chydweithredu i helpu busnesau i dyfu
- darparu gyrfaoedd apelgar a datblygu sgiliau'r gweithlu
- creu partneriaeth gyda’r sector bwyd a diod
- arddangos y sector drwy Blas Cymru
Daw’r ymgynghoriad i ben ar 15 Hydref 2019.
Ewch i wefan Llyw.Cymru i gael rhagor o wybodaeth ac i gyflwyno eich barn.