Unique streets

Mae dirywiad strydoedd mawr Gwynedd, fel mewn llefydd eraill ar draws Cymru yn bryder i nifer. I daclo’r mater felly mae Arloesi Gwynedd Wledig (AGW) wedi ceisio edrych ar atebion creadigol.

Yn gweithio gyda 3 cymuned sef Nefyn, Caernarfon a Cricieth, mae Arloesi Gwynedd Wledig yn treialu dulliau newydd ac arloesol fydd yn cynyddu nifer yr ymwelwyr i’r Stryd, ac yn sgil hynny i’r ardal yn ehangach ac yn cynyddu lefel o wariant yn lleol.

Roedd gan Nefyn sawl syniad creadigol yn barod i’w dreialu. Fel rhan o’r prosiect Strydoedd Unigryw bu i AGW ariannu murlun newydd ar dalcen adeilad ar y stryd fawr yn Nefyn a chaeth ei greu gan yr artist lleol Darren Evans. Bydd y murlun yn cael ei ddadorchuddio yn swyddogol Dydd Gwener 21/2/20 am 4.30pm gan Liz Saville Roberts AS. Mi wnaeth Nefyn hefyd dreialu parti stryd gyda cherddoriaeth byw, stondinau crefft, bwyd a gweithgareddau. Cynhaliwyd ‘Parti ar y Pafin’ yn ystod yr haf ar Stryd Fawr Nefyn. Roedd nifer a fynychodd yn adrodd bod yr awyrgylch yn anhygoel yno, gyda nifer fawr wedi dod i gefnogi a mwynhau.

Yn hanesyddol mae’r stryd fawr wedi bod yn ganolbwynt i gymunedau ledled Cymru, o ran swyddi, cartrefi i fusnesau bach yn ogystal â gyrru economïau lleol a rhanbarthol. Ond, oherwydd heriau fel cynnydd mewn siopa ar-lein, datblygiad canolfannau siopa mawr ac archfarchnadoedd mae ein strydoedd mawr yn wynebu trafferthion a hynny yn ei dro yn cyfrannu at ddirywiad canol trefi.

Eglurodd Katie Hughes-Ellis, Swyddog Prosiect AGW: “Erbyn hyn mae defnyddwyr yn chwilio am ystod o brofiadau ar y stryd fawr, o siopa i hamdden, o adloniant i wasanaethau iechyd. Mae angen i’r stryd fawr fod yn cynnig profiad unigryw erbyn hyn, rhywbeth na all pobl yn angenrheidiol ddarganfod mewn llefydd eraill.”

Os gwnaethoch gerdded i lawr Stryd y Plas yng Nghaernarfon yr haf diwethaf, byddwch wedi sylwi ar ymbarelau lliwgar uwch eich pen! Fel rhan o’r prosiect Strydoedd Unigryw, fe wnaeth AGW ariannu gosodiad celf uwchben Stryd y Plas i ychwanegu at ddelwedd y stryd ond hefyd i ddenu pobl i’r stryd. 

ae'r gosodiad celf wedi bod yn boblogaidd iawn hyd yn hyn gyda channoedd o luniau ohono'n cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, a phobl yn teithio'n arbennig i'w weld. Mae’r gosodiad wedi bod yn boblogaidd iawn, gyda channoedd o luniau o’r stryd yn cael eu rhannu ar rwydweithiau cymdeithasol, a phobl yn teithio yno yn arbennig i’w gweld. Cynhaliwyd arolwg ar y stryd i holi barn, ac roedd 99% yn cytuno bod y gwaith celf yn creu argraff dda, tra roedd 61% yn cytuno bod y gwaith celf wedi gwneud iddynt wario mwy ar y stryd a threulio mwy o amser yno. 

Ym mis Ionawr fe wnaethant hefyd ennill gwobr yng Ngwobrau Stryd Fawr Prydain 2019. Roedd Stryd y Plas yn cystadlu am wobr ‘The Rising Star’ sy'n dathlu cymunedau lleol sydd ar eu ffordd i drawsnewid ar gyfer y dyfodol. Roedd Stryd y Plas ar y rhestr fer i fod y gorau yn y DU ac enillodd yng nghategori Cymru.

Roedd gan Gricieth sawl syniad gwahanol roeddynt eisiau beilota. Ymysg y syniadau roedd y Digwyddiad Creadigol, ble cafwyd diwrnod o weithgareddau celf, perfformiadau a gweithdai. Yn ogystal â hyn bu I AGW arianu cerflun wedi ei ysbrydoli gan y gerdd ‘The Welsh Incident’ gan Robert Graves. Yn yr arolwg a gynhaliwyd yn ystod y digwyddiad roedd 80% o’r bobl gymerodd ran yn cytuno bod y digwyddiad a’r gwaith celf wedi gwneud iddynt wario mwy ar y stryd a 100% yn cytuno bod y cynllun wedi creu argraff dda arnynt.

Mae Arloesi Gwynedd Wledig yn un o raglenni LEADER Menter Môn sy’n chwilio am atebion arloesol i heriau sy’n wynebu economi Gwynedd drwy beilota syniadau newydd. Mae Menter Môn yn fenter gymunedol sy’n gweithredu ar draws gogledd Cymru i gyflawni amrywiol brosiectau adfywio, amgylcheddol a diwylliannol er budd cymunedau lleol. Trwy weithio mewn partneriaeth gyda llywodraeth, y trydydd sector, busnes ac unigolion, mae Menter Môn yn denu arian o wahanol ffynonellau er mwyn ychwanegu gwerth a chyfrannu at greu dyfodol cynaliadwy.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.