Swyddogaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru yw datblygu polisïau a chynghori Gweinidogion Cymru ynglŷn â diogelwch bwyd, safonau bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae hyn yn cynnwys polisïau labelu bwyd a chyfansoddiad bwyd. Yn sgil ymadawiad y DU â’r UE, mae rôl yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi ehangu’n sylweddol, yn enwedig mewn perthynas â mewnforion ac allforion. Bydd yn gyfrifol am lawer o swyddogaethau yr oedd y Comisiwn Ewropeaidd ac Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop yn arfer eu cyflawni. Bydd ganddi hefyd rôl arwyddocaol i’w chwarae o ran adferiad i helpu awdurdodau lleol a phartneriaid i gynnal y lefelau uchel o ddiogelwch bwyd sydd gennym ar hyn o bryd.

Gyda hyn mewn golwg, rwyf wedi gofyn i’m swyddogion lunio manyleb a phenodi tîm annibynnol i adolygu gweithrediad yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru. Bydd hyn yn fy ngalluogi i ystyried trefniadau cyllido yn y dyfodol a chylch gwaith y sefydliad a deall gallu’r Asiantaeth i ddelio â heriau’r presennol a heriau’r dyfodol. Bydd cwmpas yr adolygiad:

  • Yn ystyried a yw’r strwythurau presennol, y drefn lywodraethu a’r ffordd o ymgysylltu â rhanddeiliaid yn effeithiol ac yn addas i gyflawni cylch gwaith yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru
  • Yn gwerthuso cwmpas yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru ac yn ystyried a ddylid cynnwys meysydd polisi eraill, megis polisi maeth, yn y cylch gwaith
  • Yn nodi ystod o opsiynau a modelau cyflawni wedi’u costio, a fydd yn gwneud argymhellion clir i Weinidogion Cymru

Bydd yr adolygiad yn ystyried safbwyntiau ystod o randdeiliaid a bydd grŵp llywio’n ei oruchwylio. Byddaf yn dilyn hynt yr adolygiad yn agos a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y datblygiadau.