Rwy’n darparu diweddariad ysgrifenedig i aelodau ar y cynnydd sydd wedi'i wneud wrth roi ein strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu ar waith.

Ar 13 Mai, fe gyhoeddais ein strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu sy’n nodi sut rydym yn bwriadu dod o hyd i ffordd o sicrhau y gall pobl yng Nghymru fyw a gweithio ochr yn ochr â'r feirws gan reoli ei ledaeniad. Roedd y strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn esbonio sut y byddwn yn gwella'r gwaith o arolygu iechyd yn y gymuned, yn rhoi proses effeithiol a helaeth o olrhain cysylltiadau ar waith, ac yn helpu pobl i hunanynysu pan fo angen iddynt wneud hynny.

Yr wythnos hon, bydd y Prif Weinidog yn cadarnhau pa newidiadau, os o gwbl, fydd yn cael eu gwneud i’r rheolau ar gyfyngiadau symud a chadw pellter cymdeithasol yng Nghymru. Bydd penderfyniadau Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn seiliedig ar dystiolaeth a chyngor gwyddonol. Pryd bynnag y caiff y mesurau eu llacio, ac ar ba bynnag ffurf y gwneir hynny, bydd rhoi ein strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu ar waith yn allweddol i alluogi hyn. Rydym wedi gwneud cynnydd pellach wrth ddatblygu ein gallu i brofi a gwneud yn siŵr ein bod yn barod i olrhain cysylltiadau. Dim ond os bydd pawb yn dilyn y cyngor a nodir yn ein strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu, gan gynnwys hunanynysu pan fo angen, y caiff y cyfyngiadau symud eu llacio yn y dyfodol.

Mae graddfa’r gallu i brofi sydd ei angen yng Nghymru ac, yn wir, ledled y DU er mwyn helpu i gyflawni'r dibenion hyn, a Phrofi, Olrhain, Diogelu yn benodol, yn fwy nag erioed o'r blaen. Rydym wedi cynyddu'r gallu i brofi yn sylweddol dros yr wythnosau diwethaf, gyda’r gallu i ymgymryd â dros 9000 o brofion y dydd yn ein labordai ar hyn o bryd, ac rydym yn disgwyl y bydd gennym y gallu i gynnal 10,000 o brofion y dydd yn y dyfodol agos. Gall gweithwyr hanfodol a'r cyhoedd gael gafael ar becynnau profi gartref drwy wefan Llywodraeth y DU, a chyn bo hir byddwn yn caniatáu i’r cyhoedd ddefnyddio'r safleoedd profi sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd gan ein gweithwyr allweddol ledled Cymru. 

Mae'r rhain yn baratoadau pwysig ar gyfer lansio'r broses o olrhain cysylltiadau'r boblogaeth ar 1 Mehefin. Bydd rhoi trefniadau profi priodol ar waith yn hollbwysig er mwyn sicrhau ein bod yn deall y ffordd mae’r feirws yn lledaenu.

Rwy’n ymwybodol iawn o bopeth y mae pobl wedi'i aberthu yn ystod y cyfyngiadau symud. Rwy’n cydnabod y byddwn yn parhau i ofyn i bobl chwarae rhan sylweddol er mwyn rheoli lledaeniad y clefyd, drwy hunanynysu gydag aelodau eraill eu cartrefi pan fydd ganddynt symptomau a sicrhau eu bod yn cael prawf. Dim ond os bydd pobl yn barod i chwarae eu rhan, ac yn parhau i ddiogelu eraill, y bydd y system hon yn gweithio. Mae profi yn rhan allweddol o’r ymdrech genedlaethol hon gan y bydd yn galluogi pobl sydd â symptomau, ond nad yw canlyniad eu prawf yn bositif, i roi'r gorau i hunanynysu cyn gynted â phosibl.

Gan gydnabod graddfa bosibl y broses olrhain cysylltiadau, a'r cyfraniad y bydd angen i bob un ohonom ei wneud, byddwn yn rhoi'r broses olrhain cysylltiadau ar waith fesul cam gan ddatblygu a dysgu wrth inni fynd yn ein blaen.

Rydym wedi bod yn cynnal cynlluniau peilot yn ardaloedd byrddau iechyd Hywel Dda, Powys, Betsi Cadwaladr a Chwm Taf Morgannwg ers 18 Mai. Mae pob cynllun peilot wedi’i gynllunio a’i ddarparu gan awdurdodau lleol sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda byrddau iechyd. Mae hyn wedi bod yn gyfle defnyddiol i brofi systemau a phrosesau mewn gwahanol rannau o Gymru. Byddwn yn rhoi'r hyn yr ydym wedi'i ddysgu o'r profiad hwnnw ar waith ym mhob cynllun peilot.

O 1 Mehefin, byddwn yn rhoi'r broses o olrhain cysylltiadau'r boblogaeth ar waith ar gyfer pobl ar ôl iddynt gael canlyniad prawf positif.  O ystyried natur symptomau'r coronafeirws, bydd y mwyafrif llethol o bobl sy'n meddwl bod ganddynt symptomau ac yn cael eu profi yn cael canlyniad negatif. Ar hyn o bryd, dim ond 12% o brofion sy'n arwain at ganlyniad positif. Wedi hynny, gallai proses o olrhain cysylltiadau a gaiff ei hysgogi gan gyswllt ag unigolyn sydd â symptomau (h.y. rhywun sydd wedi gofyn am gael prawf) olygu y bydd gofyn i lawer o bobl hunanynysu pan nad oes achos positif.

Consensws barn ein Cell Cyngor Technegol yw bod y diffiniad o achos a ddefnyddir i nodi achos posibl o COVID-19 yn bwysig, oherwydd os bydd yn rhy benodol bydd yn colli achosion, ac os bydd yn rhy sensitif gall arwain at nifer anhydrin o achosion posibl a all leihau hyder y cyhoedd. Gall y penderfyniad diweddar i ychwanegu anosmia at y symptomau posibl fod wedi gwneud y diffiniad o achos yn fwy sensitif. Byddwn yn ystyried effaith y newid hwn i'r diffiniad o achos yn ofalus wrth inni symud ymlaen.

Pobl Cymru yw ein hased pennaf yn y frwydr yn erbyn COVID-19. Rhaid inni gadw eu cefnogaeth a'u hymddiriedaeth. Mae angen i bobl chwarae eu rhan a dilyn y cyngor i hunanynysu pan ofynnir iddynt wneud hynny. Bydd angen inni ddatblygu dull o olrhain cysylltiadau sy'n sicrhau bod y cyhoedd yn parhau i'n cefnogi a chydymffurfio â negeseuon iechyd y cyhoedd.

Mae'n rhaid i unrhyw un sydd â symptomau hunanynysu ynghyd ag aelodau eraill y cartref o hyd.

Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau yn rheolaidd a byddaf yn falch o ateb unrhyw gwestiynau yn fy natganiad llafar nesaf ar ôl toriad y Senedd.