Sustainable Farming and Our Land Consultation : Proposals to continue and simplify Agricultural Support for Farmers and the Rural Economy

Datganiad Ysgrifenedig gan Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

Heddiw, mae'n bleser gennyf gyhoeddi canlyniad yr ymgynghoriad y gwnes ei lansio ar 31 Gorffennaf 2020 yn gofyn am sylwadau ar gynigion ar gyfer cymorth amaethyddol i ffermwyr Cymru o 2021 ymlaen. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 23 Hydref 2020 a derbyniwyd 99 o ymatebion gan sefydliadau ac unigolion.

Yn yr ymgynghoriad, gwnaethom gynnig sail reoleiddio i Lywodraeth Cymru barhau i gefnogi ffermwyr, rheolwyr tir a'r economi wledig ehangach ar ôl diwedd Cyfnod Gweithredu’r Cytundeb Ymadael â’r UE - 31 Rhagfyr 2020. Cynigiodd fframwaith deddfwriaethol i gefnogi cystadleurwydd ffermio a chynhyrchu bwyd, wrth ymateb i'r argyfwng hinsawdd yn y cyfnod interim cyn y bwriad i gyflwyno Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn nhymor nesaf y Senedd.

https://llyw.cymru/ffermio-cynaliadwy-tir-symleiddio-cymorth-amaethyddol

https://gov.wales/sustainable-farming-and-our-land-simplifying-agricultural-support

O blith yr 11 o gynigion ynghylch Cynllun y Taliad Sylfaenol a nodwyd yn yr ymgynghoriad, roedd yr ymatebwyr yn cytuno'n gyffredinol ag 8 ohonynt. Mae’r adborth wedi’i adolygu a bydd yr 8 cynnig hynny'n cael eu datblygu fel yr amlinellir yn nogfen ymateb Llywodraeth Cymru.

Derbyniwyd nifer uchel o safbwyntiau cyferbyniol mewn ymateb i 3 chynnig (naill ai o ran nifer yr ymatebion negyddol neu’r sylwadau cysylltiedig). Y rhain oedd:

  • Cau’r Cynllun Ffermwyr Ifanc i geisiadau newydd o 2021 (Cwestiwn 7)
  • Ychwanegu categori cymwys newydd at y Gronfa Genedlaethol (Cwestiwn 11)
  • Tynnu Cywarch fel cod cnydau cymwys ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol. (Cwestiwn 17)

Ar ôl pwyso a mesur, rwyf wedi penderfynu na fydd y 3 chynnig hyn yn cael eu hystyried ymhellach ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu y bydd y Cynllun Ffermwyr Ifanc yn parhau i gefnogi ffermwyr ifanc sy’n dymuno ymuno â’r diwydiant, bydd cywarch hefyd yn parhau i fod yn gymwys i ysgogi hawliau BPS, gan yr ystyrir ei fod yn gnwd hyfyw i ffermwyr ac ni fydd unrhyw gategori newydd o'r Gronfa Genedlaethol yn cael ei gyflwyno o ystyried y gwahaniaeth barn a fynegwyd gan y rhai a ymatebodd.

Mae'r newidiadau sy'n cael eu datblygu yn fach ond yn effeithiol a byddant yn helpu i sicrhau sefydlogrwydd a chefnogaeth barhaus i ffermwyr unwaith y bydd y DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr o blaid pob un o'r 5 cynnig Datblygu Gwledig a amlinellwyd yn yr ymgynghoriad. Fodd bynnag, gwnaeth 2 gynnig sbarduno nifer uchel o sylwadau a lefel uchel o safbwyntiau cyferbyniol. Y cynigion hyn oedd:

  • Disodli cenhadaeth, amcanion a blaenoriaethau'r Undeb Ewropeaidd ar gyfer cymorth datblygu gwledig gyda diffiniadau penodol i Gymru ar gyfer datblygu gwledig.
  • Dileu'r gofynion manwl ar gynnwys a diwygio rhaglen datblygu gwledig yn y dyfodol a chryfhau rôl yr Awdurdod Rheoli wrth weinyddu'r Cynllun Datblygu Gwledig.

Ar ôl pwyso a mesur, rwyf wedi penderfynu bwrw ymlaen â'r 2 gynnig hyn ond gan eu haddasu rhywfaint i adlewyrchu barn ymatebwyr:

  • Bydd y strwythur a ddarperir gan Gyfraith yr UE a ddargedwir yn cael ei ehangu i ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, gan eu bod yn ategu uchelgeisiau Cymru yn y maes hwn.
  • Byddaf yn sefydlu Bwrdd Cynghori anstatudol ar Ddatblygu Gwledig i roi cyngor ar gynnwys y rhaglen cymorth gwledig domestig a dulliau ar gyfer ei gweithredu. Bydd rôl yr Awdurdod Rheoli yn parhau a bydd yn goruchwylio a chefnogi'r Bwrdd Cynghori ar Ddatblygu Gwledig, yn rhoi cyngor i Weinidogion Cymru ac yn goruchwylio gwaith cyflawni'r rhaglen.

Bydd y tri chynnig arall yn cael eu datblygu fel yr amlinellir yn nogfen ymateb Llywodraeth Cymru.

Yr wyf wedi gofyn i swyddogion ddechrau drafftio deddfwriaeth i wneud y newidiadau hyn.  Daw'r ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu Cynllun y Taliad Sylfaenol i Gymru i rym cyn diwedd y flwyddyn yn barod ar gyfer blwyddyn hawlio 2021. Daw'r ddeddfwriaeth ynghylch Datblygu Gwledig yng Nghymru i rym ar ddechrau 2021.