Samples being tested for nutritional content at the laboratory

Mae gan Gig Oen Cymru PGI drysorau cudd o ran maeth, yn ôl canlyniadau cyffrous y prosiect mwyaf o’i fath i brofi blas cig oen.

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn ceisio taflu goleuni newydd ar sut mae magu ŵyn a phrosesu eu cig yn dylanwadu ar y cig oen sydd orau gan y sawl sy’n prynu cig oen. 

Gwneir hyn o dan y Prosiect Ansawdd Cig Oen, sef rhan o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch, sy’n helpu’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru i baratoi ar gyfer cystadleuaeth gynyddol yn y farchnad fyd-eang.

Yn ystod y profion gwyddonol cyntaf, profwyd tri ffactor allweddol, sef y toriad cig, brîd yr oen a rhyw’r anifail. Dangosodd y canlyniadau taw’r math o doriad sy’n cael yr effaith fwyaf ar y cynnwys maethol.

Dr. Eleri Thomas, HCC Meat Quality Executive

Dywedodd Dr Eleri Thomas, Swyddog Gweithredol Ansawdd Cig yn HCC, sy'n arwain tîm mewnol y rhaglen flasu: “Pan ddadansoddwyd cynnwys brasterau aml-annirlawn (PUFA) tri thoriad  - lwyn, pen bras ac ochr orau’r forddwyd – canfuwyd bod y lefelau uchaf o faeth yn y pen bras."

“Mae’r PUFA yn cynnwys asidau brasterog Omega 3 ac Omega 6 sydd yn hollbwysig i ddiet ac sy’n cael eu hystyried yn frasterau iachus sydd yn dda i’n lles a’n calonnau. Awgrymir bod y toriadau cyhyrau yn gwahaniaethu o ran cynnwys braster aml-annirlawn, gan ddibynnu ar eu swyddogaeth fiolegol yn y corff."

“Yn ddiddorol, datgelodd y dadansoddiad nad yw brîd yr oen yn cael effaith fawr ar y prif grwpiau o asidau brasterog.”

1.	During the Welsh Lamb Meat Quality project taste panels, consumers tasted and tested three different muscle cuts; loin, chump and topside

Ochr yn ochr â'r dadansoddiad maethol, defnyddiwyd paneli blasu o ddefnyddwyr ledled y DU er mwyn dadansoddi effaith brîd a rhyw yr oen a thoriad y cig ar yr ansawdd bwyta. Cynhaliwyd y sesiynau blasu yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror 2020, pan fu 480 o ddefnyddwyr yn blasu ac yn dosbarthu saith darn o gig oen yn ôl rhagoriaeth.

Gofynnwyd i ddefnyddwyr roi marciau i'r cig yn ôl ei arogl, breuder, suddlonder, blas a boddhad cyffredinol ar raddfa llinell 0-100. Canfuwyd bod y math o doriad cig unwaith eto wedi cael effaith ar yr ansawdd bwyta. Roedd defnyddwyr wedi canfod gwahaniaeth mewn ansawdd bwyta rhwng y toriadau gwahanol, ond heb ganfod gwahaniaeth o bwys rhwng rhyw neu frîd yr oen.

Yn galonogol, dangosodd y canlyniadau fod defnyddwyr, yn enwedig y bobl iau, yn barod i dalu mwy am gig oen o ansawdd uchel. 

Mae'r adroddiad llawn ar gael ar wefan HCC:
https://meatpromotion.wales/en/industry-projects/red-meat-development-programme/welsh-lamb-meat-quality/results 

“Bob blwyddyn, bydd y prosiect yn archwilio ac yn dadansoddi effaith gwahanol ffactorau o ran magu a phrosesu ar ansawdd bwyta cig oen,” meddai Dr. Thomas.  “Y flwyddyn nesaf byddwn yn ymchwilio i effaith deiet yr ŵyn ar ansawdd maethol a blas eu cig. Byddwn yn canolbwyntio fwyfwy ar ŵyn a gafodd eu magu ar fwydydd gwahanol fel glaswellt, gwreiddiau ffres (fel maip) a chnydau brasica (fel bresych deiliog).”

Cefnogir Prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.