Cafodd gweledigaeth ar gyfer y 15 i 20 mlynedd nesaf i greu sector amaethyddol cynaliadwy er lles cenedlaethau’r dyfodol ei datgelu heddiw (Mercher, 16 Rhagfyr) gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Mae’r Papur Gwyn ar Amaethyddiaeth yng Nghymru yn nodi cyfres o gynigion fydd yn paratoi’r ffordd ar gyfer cyflwyno Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn nhymor nesa’r Senedd.

Ei nod yw cynnal safonau uchel Cymru ym meysydd bwyd, lles anifeiliaid a’r amgylchedd a’u seilio ar fframwaith symlach o reoliadau a threfn orfodi well.

Mae’r Papur Gwyn yn disgrifio sut y bydd ffermwyr yn cael eu cefnogi i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy. Bydd y cynlluniau’n galluogi ffermwyr i ymateb hefyd i argyfwng yr hinsawdd a gwyrdroi’r dirywiad yn ein bioamrywiaeth. Drwy hynny, eir i’r afael â thri phrif amcan Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector.

Bydd y cynigion yn gweld y Cynllun Taliad Sylfaenol a’r cynlluniau amaeth-amgylcheddol presennol yn dod i ben gyda Chynllun Ffermio Cynaliadwy newydd yn cymryd eu lle. Bydd y cynllun yn rhoi gwir werth i’r canlyniadau amgylcheddol y bydd ffermwyr yn eu darparu (pridd gwell, aer glân, dŵr glân, bioamrywiaeth gyfoethocach, gweithredu i leihau twymo’r ddaear), law yn llaw â chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.

Caiff Safonau Gofynnol Cenedlaethol newydd ar gyfer amaethyddiaeth eu creu i ymgynghori arnynt. I’w cynnal, byddwn yn creu trefn orfodi newydd fydd yn defnyddio amrywiaeth o sancsiynau sifil i gyd-fynd â phob achos unigol ond gan gadw sancsiynau troseddol ar gyfer y tramgwyddau mwyaf difrifol ac ailadroddus.

Hefyd, mae’r Papur Gwyn yn cynnig cefnogi’r cadwyni cyflenwi y tu hwnt i gât y fferm, gwobrwyo ffermwyr am greu a chynnal coetir, symleiddio’r trefniadau casglu a monitro data, helpu’r sector i ddatgarboneiddio a rheoli iechyd a lles anifeiliaid yn well.

Bydd modd ymgynghori ar y Papur Gwyn tan 25 Mawrth 2021.

Cyhoeddodd y Gweinidog heddiw hefyd ei bod am gadw’r BPS yn 2022, cyn belled â bod arian ar gael gan Lywodraeth y DU. Bydd hynny’n rhoi mwy o sicrwydd i fusnesau ffermio dros y cyfnod sy’n arwain at gyflwyno’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Wrth lansio’r Papur Gwyn, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

Mae gadael yr UE wedi rhoi cyfle i ni ddatblygu system o gymorth i ffermwyr fydd yn arbennig i Gymru. Rydym wedi ymgynghori a thrafod yn eang dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae’r Papur Gwyn hwn yn gosod allan ein gweledigaeth tymor hir i roi hyn ar waith a chyflwyno’r ddeddfwriaeth angenrheidiol.

Rydym am gefnogi ffermwyr Cymru i ffynnu, cynhyrchu bwyd cynaliadwy a chyfrannu at ddelio ag argyfwng yr hinsawdd. Mae aruthredd y problemau sy’n ein hwynebu yn golygu bod rhaid cymryd camau pendant nawr er mwyn sicrhau y gall cymunedau gwledig barhau i elwa ar ein cefnogaeth am flynyddoedd i ddod.

Rydym yn glir ynghylch cynnal ein safonau diogelwch bwyd, lles anifeiliaid ac amgylcheddol uchel yng Nghymru ac yn sail i hynny, byddwn yn creu fframwaith symlach o reoliadau a threfn orfodi gytbwys. Mae’n cynigion yn golygu cymryd cam mawr oddi wrth y PAC i gynnal sector amaethyddol cynhyrchiol yng Nghymru sy’n cefnogi economi cefn gwlad ac sy’n gwella cyflwr y pridd, aer, dŵr a chynefinoedd.

Rwyf am i ffermwyr weld ein cynigion fel cyfle yn hytrach na rhywbeth fydd yn cyfyngu ar eu ‘rhyddid i ffermio’. Rydym yn barod i barhau i weithio gyda ffermwyr i wireddu ein hamcanion cyffredin ar gyfer sector cynaliadwy a chryf a mynd i’r afael yr un pryd â’r heriau mawr sy’n ein hwynebu. I wneud hynny, rhaid i ni weithio gyda’n gilydd. Bydd gennych tan 25 Mawrth 2021 i ddweud eich dweud.