Iwan Thomas, CEO PLANED, Jo Rees-Wigmore, Pembrokeshire Community Land Trust Officer, Steve Watson and Alison Ward Wessex CLT

Roedd PLANED yn falch o groesawu Alison Ward a Steve Watson o Wessex CLT, sydd wedi cefnogi 50 o gymunedau ledled Dyfnaint, Dorset a Gwlad yr Haf i greu Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol. Mae PLANED yn gweithio gyda chynrychiolwyr o Wessex CLT i ddatblygu arfer da mewn datrysiadau tai fforddiadwy a arweinir gan y gymuned yn Sir Benfro.

Mae Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol (CLT) Sir Benfro yn brosiect sydd wedi ei ariannu gan LEADER, ac wedi ei weinyddu gan PLANED. Mae CLT Sir Benfro yn gweithio gyda chymunedau i ddarparu cartrefi gwirioneddol fforddiadwy sydd yn fforddiadwy yn barhaol, sydd yn eiddo i ac yn cael eu rhedeg gan bobl leol, i bobl leol, gan gynhyrchu incwm i'w cymuned. Roedd Wessex wedi eu llethu gan y weledigaeth ac yn falch o gael eu cyflwyno i gymaint o bobl ysbrydoledig yn gweithio dros y gymuned. Buont yn ymweld â chynrychiolwyr cymuned yng Nghrymych, Boncath, y Garn a Solfach.

Dywedodd Jo Rees-Wigmore, Swyddog Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Sir Benfro,

"Rydym yn hynod falch i gael y cyfle i atgynhyrchu peth o'r llwyddiant y mae Wessex wedi ei gyflawni yn ne-orllewin Lloegr, yma yn Sir Benfro. I helpu cymunedau greu datrysiadau tai fforddiadwy i bobol leol na fyddai'n gallu byw yn y gymuned ble cawsant eu magu fel arall.  Drwy wneud hyn, rydym yn creu cymunedau cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac rydym yn edrych ymlaen yn arw at gefnogi'r cymunedau hynny sy'n dymuno sefydlu Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol."

Mae Arwain Sir Benfro - y Grŵp Gweithredu Lleol (LAG) ar gyfer Sir Benfro, a weinyddir gan PLANED wedi rhoi £60,410 o gyllid i ddatblygu prosiect Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Sir Benfro. Ariennir hyn trwy'r rhaglen LEADER, sy'n rhan o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Am fwy o wybodaeth, neu os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol, cysylltwch â Jo Rees-Wigmore ar 07990 761386.