Ymunwch â Cyswllt Ffermio ac arbenigwyr y maes i drafod a derbyn gwybodaeth am sut all brofion genomig fod o gymorth wrth wneud penderfyniadau bridio a lleihau problemau yn ystod y cyfnod lloia.
Dewch i glywed gan yr arbenigwyr, gan gynnwys Alison Glasgow, Rheolwr Technegol y Gymdeithas Limousin a fydd yno yn trafod y penderfyniadau rheolaeth posib ar ôl profion genomig
Bydd Iwan Parry, y milfeddyg, hefyd yn bresennol gan gyflwyno’r ffactorau corfforol eraill y dylid eu hystyried wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â bridio
Os hoffech wybod mwy am sut all y dechnoleg gyffrous yma fod o fudd i’ch buches, dewch i ymuno â ni, bydd angen archebu eich lle a bydd lluniaeth ar gael.
Cynhelir y digwyddiad ar Fferm Penrhyn Farm, Caergybi, Ynys Môn, LL65 4YG ar 27/06/19 rhwng 14:00 – 16:00.
Am ragor o wybodaeth ac i archebu lle, cysylltwch â’r Ganolfan Wasanaeth 08456 000 813
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.