Bedwyr Jones of Gwastadanas

Mae llysgennad ar gyfer prosiect gwelliant genetig i ddefaid yng Nghymru yn annog ffermwyr i fod yn ofalus wrth ddewis hyrddod a mamogiaid i’r ddiadell oherwydd mae’n cael effaith bwysig ar berfformiad y ddiadell yn gyffredinol.

Mewn cyfnod pan fo gwerthiannau defaid a hyrddod yn eu hanterth, mae’r Cynllun Hyrddod Mynydd yn cymell ffermwyr i bennu meini prawf penodol ar gyfer eu diadelloedd a dewis stoc holliach a dibynadwy yn unig.

Mae Cynllun Hyrddod Mynydd Hybu Cig Cymru (HCC) yn dod â'r dechnoleg ddiweddaraf i ddiadelloedd tir uchel yng Nghymru, gyda'r nod o gryfhau sector defaid Cymru trwy gyfrwng gwelliant genetig hirdymor.

Heather McCalman HCC Programme Coordinator

Dywedodd Heather McCalman, Cydlynydd Rhaglen HCC: “Mae’n amhosibl cynhyrchu defaid perffaith, ond gall defnyddio gwybodaeth sy’n seiliedig ar berfformiad cyfredol y ddiadell helpu’r ffermwr i ddewis yr hwrdd gorau i’w brynu neu ei ddefnyddio, a’r mamogiaid y dylid eu cadw’n anifeiliaid amnewid."

“Mae defnyddio ffigurau mynegrif cyffredinol i ddewis dim ond yr anifeiliaid sy'n uwch na'r cyfartaledd yn gwneud synnwyr masnachol, ond bydd y gwerthoedd bridio tybiedig (EBVau) yn help wrth geisio gwella nodweddion penodol yn y ddiadell.”

Mae pob un o Ddiadelloedd Arweiniol y Cynllun Hyrddod Mynydd yn defnyddio EBVau i’w cynorthwyo i ddewis hyrddod a mamogiaid. Gan ddibynnu ar yr hyn y maen nhw’n ceisio eu cyflawni yn eu diadelloedd eu hunain, bydd ffermwyr yn ystyried EBVau gwahanol.

Mae gan Bedwyr Jones, Gwastadanas, sy’n ffermio yng nghanol Eryri, nod clir o ran dewis mamogiaid amnewid ar gyfer y flwyddyn ganlynol a dewis hyrddod ar gyfer y ddiadell gnewyllol.  Wrth ddewis a phrynu hyrddod ar gyfer ei ddiadell, mae Bedwyr yn chwilio am EBV positif ar gyfer braster i wneud yn siŵr y bydd yr ŵyn yn pesgi’n gyflym.

Dywedodd Bewyr: “Fy mlaenoriaeth flaenaf ar ôl gwneud yn siŵr bod yr hyrddod yn holliach i fyw a gweithio, yw’r EBV ar gyfer pwysau wyth-wythnos. Mae angen i ŵyn dyfu’n gynnar fel y gallan nhw ddod oddi ar y mynydd mewn cyflwr gwych a phesgi ar borfa. Rwy’n awyddus i gynnal pwysau’r mamogiaid, ond mae cynnyrch llaeth hefyd yn hollbwysig a byddaf yn defnyddio’r pwysau wyth-wythnos i asesu hyn.”

Mae’r Cynllun Hyrddod Mynydd yn helpu ffermwyr defaid mynydd Cymru i gael hyd i’r wybodaeth am berfformiad eu defaid er mwyn gallu dewis stoc sy'n addas i'w diadelloedd a’u gwneud yn fwy proffidiol yn yr hirdymor. 

Mae’r Cynllun Hyrddod Mynydd yn un o dri prosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig  2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.