Stoc+ Vet Ambassador Iolo White, Vet at Camlas Farm Vets, Welshpool

Mae milfeddyg o’r Canolbarth wedi annog ffermwyr i ystyried tri pheth pwysig wrth ddiddyfnu ŵyn, er mwyn hybu iechyd a phroffidioldeb hirdymor y ddiadell.

Mae Iolo White, Partner Milfeddygol yn Camlas Farm Vets, Y Trallwng, wedi bod yn cynghori ffermwyr trwy gyfrwng Stoc+, prosiect sy’n cael ei gydlynu gan Hybu Cig Cymru (HCC). Fel arfer, bydd diddyfnu’n digwydd rhwng 12 a 14 wythnos ar ôl wyna. Fodd bynnag, mae ambell beth a allai ddylanwadu ar benderfyniad y ffermwyr ynghylch pryd yw'r amser gorau i wneud hynny.

Dywed Iolo, sydd hefyd yn Llysgennad Stoc+, taw’r tri pheth pwysicaf i’w hystyried wrth ddiddyfnu yw twf yr ŵyn, cyflwr corff y mamogiaid a faint o borfa sydd ar gael. “Un cwestiwn y bydd ffermwyr yn gofyn imi’n aml yw pryd y dylen nhw dynnu’r ŵyn oddi wrth eu mamau. Mae’r ateb yn dibynnu ar y sefyllfa. Mae pob fferm yn wahanol, ac mae'n bwysig bod diddyfnu’n dechrau pan fydd hynny’n briodol i’r ffarm ac i’r defaid. Mae hefyd yr un mor bwysig i gynllunio maeth a rheolaeth ar ôl diddyfnu a gwneud yn siŵr fod tir pori da ar gael i’r ŵyn.

“Yn ogystal, mae’n bwysig edrych ar gyflwr corff y mamogiaid, oherwydd dyma’r cyfle cyntaf i ddechrau eu paratoi ar gyfer yr hwrdd. Dylai ffermwyr wneud yn siŵr nad yw sgôr cyflwr corff y mamogiaid yn gostwng gormod cyn diddyfnu. Dylid anelu at 2.5 i ddefaid tir isel a 2 i ddefaid mynydd." 

“Os bydd yr ŵyn yn aros gyda’r defaid am rhy hir, mae gormod o gystadleuaeth am laswellt a bydd cyflwr corff y defaid yn dioddef. Bydd hyn hefyd yn arafu twf yr ŵyn am nad oes digon o laeth a maeth. Mae'n cymryd rhwng chwech ac wyth wythnos i ddafad ennill un sgôr cyflwr, ac felly does dim llawer o amser i'w golli.”

Elizabeth Swancott, HCC Programme Officer

Mae Elizabeth Swancott o HCC, sy'n gweithio ar Stoc+, yn atgoffa ffermwyr i gadw llygad am lyngyr a’u rheoli yn ystod diddyfnu. “Mae gwneud Cyfrifiad Wyau Ysgarthol (FEC) a phwyso’r grŵp i gofnodi twf yn bwysig wrth fonitro heintiad llyngyr. Eleni, yn dilyn cyfnod hir o dywydd sych cyn glaw a chyfnodau cynnes, gallem weld llawer iawn o wyau llyngyr yn deor ar y borfa a gallai nifer yr heintiadau fod yn uchel. Gallai hyn ddigwydd yn ystod y cyfnod diddyfnu, ac felly mae’n bwysig cadw nifer y llyngyr yn isel.”

Anogir ffermwyr i ymgynghori â'u milfeddyg i drafod eu hanghenion penodol ac i wneud yn siŵr fod cynllun iechyd ar waith. Mae rhagor o wybodaeth am ddiddyfnu ar gael ar wefan HCC.

Mae Stoc+ yn un elfen o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch a chaiff gefnogaeth gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.