Arddangosfa o arfer gorau, cyflawniadau a chanlyniadau a gyflawnwyd o dan y Cynllun Rheoli Cynaliadwy, Cymunedau Gwledig - Cynllun Datblygu Gwledig 2014 - 2020.
Cynhadledd a digwyddiad rhwydweithio yw'r cyntaf mewn cyfres, sy'n dathlu'r gwaith prosiect eang y mae ein rhanddeiliaid yn ei gyflawni o ran rheoli tir yn gynaliadwy er mwyn gwella gwydnwch adnoddau naturiol Cymru a gwireddu'r manteision y mae'r rhain yn eu cynnig i gymunedau ledled Cymru.
Rydym yn bwriadu dod â rhanddeiliaid at ei gilydd i rannu arfer gorau ac ysgogi syniadau a thrafodaeth; arddangos sut mae partneriaethau'r prosiect yn darparu rheolaeth tir gydweithredol, ar raddfa tirwedd, cynaliadwy, gan weithredu atebion sy'n seiliedig ar natur yn llwyddiannus i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu ein hamgylchedd a'n cymunedau.