Ymunwch â ni yn fyw o gysur eich cartref eich hun, lle bydd ein ffermwyr arddangos dangos, o’u profiad personol, sut mae technoleg newydd a gwahanol dechnegau rheoli yn newid y ffordd maen nhw’n ffermio. Byddwn yn ateb eich cwestiynau yn fyw gyda’r ffermwyr a’r panel o arbenigwyr ym mhob digwyddiad.

Mae Fferm Arddangos Rhiwaedog yn fferm fynydd o 142 hectar (ha) ac mae’n gweithio fel fferm bîff a defaid. Bydd y digwyddiad yma yn canolbwyntio ar wella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd oddi ar y borfa a gwerthuso buddion technoleg i ganfod pan fo buchod yn gofyn tarw i sicrhau ennillion o ran ffrwythlondeb y fuches sugno.

Trwy gydol y weminar fyw, bydd ystod eang o arbenigwyr yn trafod:

  • Y prosiectau - beth rydym yn ei anelu i’w gyflawni?
  • Ffrwythlondeb y fuches - darparu cynnydd (Joe Angell, Milfeddygon y Wern)
  • Moocall Heat - sut mae’n gweithio?
  • Effeithlonrwydd glaswelltir - gwella cynhyrchiant o borfa (Chris Duller, arbenigwr glaswelltir annibynnol)
  • Prosiect stoc+ HCC - gwella iechyd eich buches.

Yn ogystal â thrafod y prosiectau, bydd ein harbenigwyr yn cynnig cyngor ac argymhellion cyffredinol, gyda’r nod o’ch helpu chi i wella eich busnes.

Bydd y webinar yma neu ran ohono yn y Gymraeg felly bydd yna wasanaeth cyfieithu ar gael.

Er mwyn cymryd rhan yn y weminar yma, ffoniwch 08456 000 813 neu ebostiwch gwawr.hughes@menterabusnes.co.uk

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllidodrwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru -Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.