1,000 trees

Fe wnaeth un ar ddeg o fyfyrwyr profiad gwaith o Brifysgol Abertawe wynebu’r tywydd gwaethaf sydd gan Ben-y-bont ar Ogwr i’w gynnig er mwyn plannu dros fil o goed mewn un diwrnod. Roedd y myfyrwyr yn ymgymryd â phedwar diwrnod o brofiad gwaith, yn cynorthwyo gyda’r gwaith o reoli arfordir Pen-y-bont ar Ogwr mewn ffordd gynaliadwy dan brosiect Twyni i Dwyni.

Plannwyd y coed ar fferm y Sgêr, ychydig i mewn i’r tir o’r Traeth Pinc ym Mhorthcawl. Cafodd y coed eu plannu mewn rhes ar hyd terfyn cae. Mae hyn yn cynrychioli ymrwymiad 15 mlynedd i dyfu’r coed yn wrych traddodiadol. Bydd y gwrych newydd hwn, 250 metr o hyd, nid yn unig yn gwella cymeriad tirwedd tir y fferm ond bydd hefyd yn gynefin gwych i bryfaid, mamaliaid bychain ac adar. Bydd y gwrych yn gwella cysylltedd bioamrywiaeth, gan greu coridor i’r pryfaid a’r anifeiliaid hynny groesi tir y fferm.

Mae’r myfyrwyr wedi bod yn astudio rheolaeth cefn gwlad, sydd wedi ei dargedu ar Warchodfa Natur Genedlaethol Cynffig a’r ardaloedd arfordirol cyfagos, fel rhan o’u lleoliad profiad gwaith. Gan gymryd amser i ffwrdd oddi wrth eu hastudiaethau yn Adran Bioleg Prifysgol Abertawe maen nhw’n dysgu am y ffyrdd ymarferol y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pan-y-bont ar Ogwr yn rheoli ei Gwarchodfa Natur Genedlaethol ac yn gwella ecoleg y parth arfordirol.

Rhan fechan yw’r lleoliad gwaith o brosiect Twyni i Dwyni, sy’n gydweithrediad rhwng sefydliadau, perchnogion tir, ffermwyr a chlybiau golff, i gyd yn gweithio gyda’i gilydd i reoli Arfordir Pen-y-bont ar Ogwr mewn ffordd gynaliadwy. Ariennir prosiect Twyni i Dwyni gan y Cynllun Rheoli Cynaliadwy sy’n cael ei gefnogi drwy Raglen Datblygu Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020.