Mae gan Gymru draddodiad cryf o bobl yn helpu ei gilydd, ac rydyn ni’n sicr wedi gweld hynny ar waith dros y flwyddyn ddiwethaf. O godi'r ffôn, i ddarparu cyflenwadau i bobl sy'n hunanynysu, i helpu ein gwasanaethau cyhoeddus, mae gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol wedi dod o hyd i lawer o ffyrdd creadigol o helpu. Drwy wirfoddoli'n ddiogel, mae hynny'n helpu cymunedau lleol, ac yn tynnu'r pwysau oddi ar y GIG.

Hoffwn ddiolch yn fawr i chi – rydych chi’n wych.

Os hoffech chi wirfoddoli neu gynnig cymorth, mae'n bwysig eich bod chi'n cadw eich hunan ac eraill yn ddiogel. Yn benodol, yn ol canllawiau Llywodraeth Cymru dylech chi osgoi rhannu car gyda pherson arall y tu allan i'ch aelwyd, hyd yn oed os ydych chi'n ceisio helpu rhywun i gyrraedd apwyntiad brechu.

Y rheswm am hynny yw y byddai'n anodd cadw at y rheolau a chadw pellter corfforol. Os byddwch chi'n dod o fewn 2 fetr i bobl eraill, dylech chi osgoi cysylltiad corfforol, gan geisio peidio a wynebu eich gilydd, a chadw'r amser a dreuliwch o fewn 2 fetr i bobl eraill mor fyr ag sy'n bosibl.

Dilynwch y cyngor isod, a chadwch yn ddiogel.

Dywedodd Ruth Marks, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:

Mae'r ymdrechion gwirfoddoli, y rhai ffurfiol ac anffurfiol, wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i unigolion a chymunedau yng Nghymru ers dechrau'r pandemig. Mae'r math hwn o gymorth yn galluogi pobl i hunanynysu pan fo angen gwneud hynny, gan gynnwys cadw mewn cysylltiad. Ar hyn o bryd, gan fod y gyfradd heintio ar ei huchaf, ni fu erioed yn bwysicach sicrhau bod cymorth yn cael ei roi mewn modd diogel.

Os ydych chi'n gallu cefnogi eraill, mae'n bwysig darllen y canllawiau ar sut i wneud hynny'n ddiogel. Mae hefyd yn werth ystyried y gwahanol ffyrdd y gallwch wirfoddoli o'ch cartref eich hunan – er enghraifft drwy gael sgwrs dros y ffôn neu drwy alwad fideo â phobl i leihau unigedd ac unigrwydd.

I gael gwybod rhagor am sut i helpu eraill mewn modd diogel, ac i gofrestru ar gyfer cyfleoedd i wirfoddoli, ewch i Gwirfoddoli Cymru.

Dywedodd Ann Woods, Prif Swyddog Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint:

Mae Rhwydwaith y Cynghorau Gwirfoddol Sirol, sy'n gweithio gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, yn chwarae rôl enfawr o ran cysylltu cymorth a gynigir gan wirfoddolwyr â'r rhai y mae angen help llaw arnynt. Rydyn ni ar gael i gynghori grwpiau gwirfoddol a chymunedol ynglŷn â'u llywodraethu, eu digwyddiadau codi arian, a'u harferion wrth reoli gwirfoddolwyr.

Yn Sir y Fflint rydyn ni wedi darparu hyfforddiant a chefnogaeth i lawer o grwpiau cymunedol sydd newydd eu ffurfio ac sydd wedi helpu i ymateb i effeithiau Covid-19.

Ein neges yw y dylai pob gwirfoddolwr ddilyn canllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru. Gall grwpiau cymunedol/gwirfoddolwyr sydd ag unrhyw gwestiynau am sut i wirfoddoli'n ddiogel yn eu cymuned leol gysylltu â'u Cyngor Gwirfoddol lleol drwy.