beehive main

Mae Ffiws, gofod gwneud sy'n cael ei redeg gan Arloesi Gwynedd Wledig (AGW) mewn partneriaeth gyda Chyngor Gwynedd a Rhaglen ARFOR ym Mhorthmadog, wedi helpu busnes lleol i wneud cwch gwenyn a fydd yn cael ei werthu mewn ocsiwn ar gyfer elusen.

Gofod Gwneud ydi gofod cydweithredol ar gyfer gwneud, dysgu, archwilio a rhannu sy'n defnyddio offer uwch-dechnoleg ac offer di-dechnoleg. Bydd nifer o beiriannau diddorol ar gael ym Mhorthmadog fel argraffwyr 3D, torwr laser a pheiriant CNC.

Mae Direct Bees sy'n gyflenwr offer Cadw Gwenyn wedi eu lleoli yn Harlech, Gwynedd wedi adeiladu cwch gwenyn cenedlaethol sy’n cynnwys llawr, blwch dodwy, siwper, bwrdd coron a tho talcen gan ddefnyddio deunyddiau sydd 100% wedi'u hailgylchu. Mae'r pren a ddefnyddiwyd wedi dod o gymysgedd o estyll a phaledi wedi'u taflu, tra bod y to wedi'i orchuddio â chaniau diod.

Esboniodd Darrwen Walters, perchenog Direct Bees “Buom yn gweithio gyda Ffiws i ychwanegu gwaith dylunio gwych gan ddefnyddio eu peiriant laser. Mae cael mynediad i gyfleusterau fel Ffiws wedi bod yn wych. Nid yn unig rydw i wedi gallu defnyddio eu peiriannau i ychwanegu gwerth at fy nghynnyrch ond mae hefyd wedi rhoi cyfle i mi roi cynnig ar beiriannau fel y CNC a gweld a fyddai prynu un ar gyfer y busnes yn werth y buddsoddiad.”

Bydd y cwch gwenyn yn cael ei arddangos yn y Bee Tradex yn Coventry ar y 14eg o Fawrth ac yng nghonfensiwn Cymdeithas Gwenynwyr Cymru yn Llanelwedd ar y 28ain o Fawrth, lle bydd yr enillydd lwcus yn cael ei dynnu allan o het gan staff yr elusen Bees for Development. Sefydlwyd ym 1993, Bees for Development oedd y sefydliad cyntaf i fynegi'r rhesymau pam mae cadw gwenyn yn arf mor ddefnyddiol ar gyfer lliniaru tlodi wrth helpu i gadw bioamrywiaeth.

I gyfrannu ac i gael siawns o ennill y cwch gwenyn ewch i https://www.justgiving.com/fundraising/directbees-beehive

Mae Bees for Development yn canolbwyntio ar ddulliau syml a chynaliadwy o gadw gwenyn, gan ddefnyddio gwenyn lleol a deunyddiau lleol bob amser. Maent wedi helpu miloedd o deuluoedd anghysbell a thlawd i ennill incwm hanfodol i ddiwallu eu hanghenion sylfaenol. Mae Bees for Development yn annog ffermwyr i wneud cychod gwenyn syml, cost isel fel y gall mwy o bobl gynaeafu a gwerthu mêl, gan droi adnoddau naturiol yn fywoliaethau cynaliadwy gyda budd mawr i'r amgylchedd ehangach.

Dywedodd Rhys Gwilym, Swyddog Prosiect AGW “Rydym yn falch iawn o allu helpu busnesau lleol fel Direct Bees ddatblygu eu cynnyrch a’u busnes, a chefnogi ymrwymiad Darren i godi arian tuag at Bees for Development. Nod Ffiws ydi creu cymuned o wneuthurwyr yn yr ardal a rhoi cyfle i bawb gael mynediad i uwch-dechnoleg am ddim. Wedi ei ariannu gan Arloesi Gwynedd Wledig ac ARFOR, Cyngor Gwynedd pwrpas y cynllun ydi agor gofod gwaith dros dro mewn adeiladau segur yng nghymunedau Gwynedd i roi'r cyfle i fusnesau lleol, a’r gymuned yn ehangach, ddefnyddio offer a thechnoleg newydd.”

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd ac Arfor. 

Mae Cynllun ARFOR yn edrych i ddatblygu’r economi, creu swyddi gwerth uchel a hybu’r Iaith mewn ardaloedd yng Ngwynedd, Môn, Ceredigion a Chaerfyrddin, drwy arbrofi gyda syniadau newydd ag arloesol. Arianwyd Cynllun ARFOR gan Llywodraeth Cymru.

Mae AGW yn chwilio am atebion arloesol i heriau sy’n wynebu economi Gwynedd. Maent yn gwneud hyn trwy dreialu dulliau newydd, gyda rhai ohonynt yn llwyddo ac yna’n cael eu hailadrodd, ac eraill yn methu â chyrraedd amcanion cychwynnol, ond defnyddir y mewnwelediadau gwerthfawr ohonynt i lywio prosiectau yn y dyfodol.

Am fwy o wybodaeth am y cwch gwenyn elusenol neu os ydych yn chwilio am offer neu gyngor am gadw gwenyn cysylltwch gyda Darren drwy ei wefan www.directbees.com