Comin Gelligaer and Merthyr Common

"Rydym chwarter y ffordd drwy ein prosiect 2 flynedd bellach, ac mae’n gyfle grêt i edrych yn ôl ar yr hyn a gyflawnwyd gennym. O gael gwared ar 53 tunnell o wastraff o’r comin, plannu 2015 o goed, cynnal sesiynau wythnosol a misol i wirfoddolwyr, ymgymryd â phatrolau ar y cyd â’r Heddlu, i ddechrau teithiau cerdded gwella’r corff ar y comin. Bu’r misoedd yn rhai prysur iawn."

Cerdded

"Hoffem ddiolch unwaith yn rhagor i’n gwirfoddolwyr sy’n gweithio’n galed ac sy’n galluogi i gymaint o hyn ddigwydd: diolch! Rydym yn diweddaru’n tudalen ‘Cymryd Rhan’ yn aml ar ein gwefan gyda gweithgareddau sydd ar y gweill. Gallwch ddod o hyd i’r dudalen yma. Mae croeso i bawb ddod a chymryd rhan."

Gateway

Cafodd arwydd porth newydd ei osod wrth fynediad Bedlinog i’r comin a bydd rhagor o’r arwyddion hyn yn cael eu gosod dros yr haf. Hefyd, cafwyd gwaith yn ddiweddar ar gwblhau maes parcio Pen Garnbugail, a bydd llwybr cerdded yn cael ei greu o’r lleoliad hwn dros yr ychydig wythnosau nesaf.

"Wrth edrych ymlaen at fis Medi, rydym yn bwriadu cynnal cwrs hyfforddi undydd i’r cyhoedd. Bydd y cwrs yn trafod y comin, rhoi hanes cryno ohono ac esbonio beth yw tir comin ac yn y blaen. Byddwn hefyd yn ymgymryd â gwaith gwella pellach i’r maes parcio."

Hefyd, yn ddiweddar gwnaethom benodi cwmni theatr i ddarparu gweithdai rhyngweithiol llawn hwyl i ysgolion lleol am y comin. Gellir gweld pecyn addysg am y comin ar ein gwefan yma.

Fly tip

Rydym newydd lansio cydweithrediad gyda Thaclo Tipio Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon ac mae’n gweithio’n dda. Daethpwyd o hyd i nifer o ddarnau o dystiolaeth o dipio anghyfreithlon ac mae’r archwilio wedi dechrau.

Cofiwch fod y prosiect ar Facebook: Comin Gelligaer a Merthyr a Twitter: @GMCommon  

Rhannwch, hoffwch, dilynwch a lledaenwch y neges #ParchwchyComin a #CaruCymru